Ewch i’r prif gynnwys

Gweithio gyda'n gilydd i wella iechyd yr ymennydd

Dydd Sadwrn, 20 Ebrill 2024
Calendar 12:00-16:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

An image showing the event title Working together for better brain health and a mulit-coloured blue, yellow, green and red brain graphic.

Ymunwch â'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl a'r Uned Atgyweirio Ymennydd a Niwrotherapiwteg Intracranial (BRAIN) am brynhawn o sgyrsiau a gweithgareddau rhyngweithiol i ddathlu cyfranogiad cleifion a'r cyhoedd mewn ymchwil.

Bydd y digwyddiad cydweithredol yn dwyn ynghyd ymchwilwyr ac aelodau o gyfranogiad cleifion a'r cyhoedd (PPI) o grwpiau cynghori sydd wedi'u lleoli yn yr Is-adran Meddygaeth Seicolegol a Niwrowyddorau Clinigol ym Mhrifysgol Caerdydd.

Bydd y digwyddiad yn gyfle i aelodau'r grŵp PPI rwydweithio a chlywed gan ymchwilwyr am yr effaith y mae eu lleisiau profiadol byw yn ei chael mewn gwaith ymchwil i iechyd yr ymennydd. Bydd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn gemau hwyliog sy'n gysylltiedig â'r ymennydd a gweithgareddau celf.

Mae'r digwyddiad yn agored i'r cyhoedd, nid gweithwyr iechyd proffesiynol yn unig, a phobl sydd â diddordeb mewn gwaith ymchwil i iechyd yr ymennydd.

Gwneir y digwyddiad hwn yn bosibl drwy gefnogaeth barhaus gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru.

Gweld Gweithio gyda'n gilydd i wella iechyd yr ymennydd ar Google Maps
Atriwm a Hadyn Ellis 0.07
Hadyn Ellis Building
Heol Maendy
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn