Ewch i’r prif gynnwys

Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown 2024

Calendar Dydd Llun 4 Mawrth 2024, 15:30-Dydd Gwener 8 Mawrth 2024, 18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Careers and Role Model Week 2024

Wedi'i chynnal gan Borth Cymunedol Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth â Phafiliwn Grange, nod Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl Grangetown yw i gysylltu preswylwyr â chynghorwyr academaidd a phroffesiynol.

Mae’r digwyddiad yn rhoi cyfle i siarad â modelau rôl lleol a dysgu rhagor am ystod o bynciau y mae modd eu hastudio, yn ogystal â chael cyngor penodol ar lwybrau addysgol a gyrfaoedd.

Wrth fynd i’r digwyddiadau mae modd cael cymorth un-i-un gyda cheisiadau am swydd neu’r brifysgol, a gall darpar entrepreneuriaid gael cyngor busnes. Mae’r digwyddiad yn cynnig rhywbeth i bawb, o bobl ifanc mewn ysgolion cynradd lleol i oedolion sy’n chwilio am gyfleoedd gwaith neu newid cyfeiriad eu gyrfa.

Yn ogystal â phresenoldeb Prifysgol Caerdydd, bydd Coleg Caerdydd a’r Fro, y Brifysgol Agored, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol De Cymru, a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru i gyd yn cymryd rhan drwy gydol yr wythnos.

Wrth fynd i’r digwyddiad bydd modd i unigolion gael y cyfle i gofrestru ar gyfer ymweliad â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Met Caerdydd, Coleg Caerdydd a’r Fro a/neu Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar Ddydd Sadwrn, 9 Marth o 10am-3pm, gyda chludiant am ddim yn cael ei ddarparu o Bafiliwn Grange ac yn ôl.

Rhaglen ddigwyddiadau Wythnos Gyrfaoedd a Modelau Rôl 2024
Bydd y sesiynau’n cael eu cynnal o ddydd Llun i ddydd Gwener ym rhwng 3:30pm a 6pm, gyda chyfleoedd i ymweld â phrifysgolion lleol ar y dydd Sadwrn.

Bydd 'thema' i bob sesiwn, a bydd yr wythnos yn edrych fel hyn:

Dydd Llun 4 Mawrth, Cyflwyniad i sesiwn Wythnos Gyrfaoedd
Dydd Mawrth 5 Mawrth, Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol
Dydd Mercher 6 Mawrth, Gwyddorau Ffisegol a Pheirianneg
Dydd Iau 7 Mawrth, Gwyddorau Bywyd a Bioleg
Dydd Gwener 8 Mawrth, Sesiwn Gwasanaethau Proffesiynol a Chyflogadwyedd (AD), Llwybrau/Dysgu Gydol Oes a sesiwn cynghori entrepreneuriaid
Dydd Sadwrn 9 Mawrth, Ymweliad â champws sefydliadau Addysgu Uwch ac Addysg Bellach o 10:00 tan 15:00

Pafiliwn Grange
Gerddi Grange
Grangetown
Caerdydd
CF11 7LJ

Rhannwch y digwyddiad hwn