Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd: Cymru Can: Cyflawni nodau llesiant Cymru ar rôl ar gyfer busnes

Dydd Iau, 7 Mawrth 2024
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Derek Walker, Future Generations Commissioner for Wales

Ym mis Tachwedd 2023, lansiodd Derek Walker Cymru Can, sy’n nodi strategaeth newydd Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru ar gyfer 2023 – 2030 a’i weledigaeth hirdymor ar gyfer Cymru. Yn y sesiwn hon, bydd y Comisiynydd yn amlinellu’r dull y mae’n bwriadu ei ddefnyddio dros y saith mlynedd nesaf ac yn rhoi trosolwg o’r ffordd y bydd tîm y Comisiynydd yn gweithio ac yn mesur ei effaith. Mae Cymru Can yn amlinellu pum cenhadaeth ar gyfer y Comisiynydd: Gweithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; Hinsawdd a Natur; Diwylliant; Economi Iechyd a Llesiant – a dwy thema drawsbynciol, bwyd a digidol & AI.

Ni fydd Cymru’n cyflawni ei huchelgeisiau Cenedlaethau’r Dyfodol heb gynnwys pawb yng Nghymru – y sectorau cyhoeddus, preifat a gwirfoddol i gyd yn cydweithio. Bydd y sesiwn hon yn amlygu’n benodol sut mae busnesau yng Nghymru yn cyfrannu at Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a bydd yn rhoi syniadau i chi i helpu’ch sefydliad i gyfrannu’n weithredol at nodau llesiant Cymru.

Gweld Sesiwn Hysbysu Dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd: Cymru Can: Cyflawni nodau llesiant Cymru ar rôl ar gyfer busnes ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education