Ewch i’r prif gynnwys

Noson Agored Rhaglen Rhan-Amser MBA Ysgol Busnes Caerdydd

Dydd Iau, 22 Chwefror 2024
Calendar 16:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Students
Ydych chi eisiau ehangu eich gwybodaeth busnes a gwella eich rhagolygon gyrfa? Ydych chi'n bwriadu gwella'ch sgiliau a'ch arbenigedd i sicrhau gwell swydd?

Gallai rhaglen MBA Rhan-Amser ailachrededig Ysgol Busnes Caerdydd, o dan achrediad AMBA, eich helpu i gyrraedd eich nod. Ymunwch â ni dros luniaeth ysgafn i drafod eich dyheadau a darganfod mwy am yr hyn y gallai'r rhaglen ei gynnig i chi yn ein Hystafell Addysg Weithredol.

Cewch siarad â Chyfarwyddwr Rhaglen MBA Caerdydd, Dr Saloomeh Tabari, a'n timau Recriwtio ac Addysg Weithredol, a fydd yn gallu rhoi gwybodaeth i chi am wasanaethau cymorth i fyfyrwyr, cyfleoedd ariannu a’r broses ymgeisio. Manteisiwch ar y cyfle i ofyn cwestiynau a dysgu am ymgymryd ag addysg weithredol yn Ysgol Busnes Caerdydd.

Yn Ysgol Busnes Caerdydd, credwn taw "Newid y byd yw ein busnes ni. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth!"

Am ymholiadau anffurfiol am y rhaglen e-bostiwch MBA-Enquiries@caerdydd.ac.uk.

Gweld Noson Agored Rhaglen Rhan-Amser MBA Ysgol Busnes Caerdydd ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education