Sesiynau Bywyd yn Tsieina am ysgolion uwchradd
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Cynlluniwyd i’r fideos gael eu defnyddio gan athrawon yn eu hamser eu hunain. Maen nhw hefyd yn galluogi plant ysgolion uwchradd i drin a thrafod bywyd cyfoes a thraddodiadol yn Tsieina.
Mae’r sesiynau’n ymdrin ag ystod o bynciau, gan gynnwys:
- Bwyd a maeth: Dysgwch sut i baratoi pryd arbennig o nwdls Tsieineaidd ... gan ddefnyddio lasagne!
- Cerddoriaeth: Dewch i gael gwybod am y Pipa a gwylio arddangosiad byw.
- Dylunio a thechnoleg: Dysgwch sut mae pobl yn defnyddio gwahanol fathau o dechnoleg yn Tsieina fodern.
- Astudiaethau’r Cyfryngau: Dysgwch sut mae'r ffilm Mulan 花木兰 yn adlewyrchu rhinweddau allweddol cymdeithas yn Tsieina.
Bydd y fideos naill ai'n cynnwys elfen ymarferol i'r disgyblion neu’n cyflwyno gweithgaredd ychwanegol i chi ei ddefnyddio (os hoffech chi wneud hynny).