Ewch i’r prif gynnwys

Noson Ail-Laswyr 90au

Dydd Sadwrn, 24 Awst 2024
Calendar 18:00-01:00

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

90s Alumni reunion

Gwahoddir holl gynfyfyrwyr Prifysgol Caerdydd (gan gynnwys y rhai o UWIST, Coleg Prifysgol Caerdydd a Choleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a ddechreuodd neu a gwblhaodd eu hastudiaethau rhwng 1990-1999, i droi’r cloc yn ôl am un noson ym mis Awst. Yn cyflwyno: “Noson 90au i Ailgroesawu Myfyrwyr”

Boed eich bod eisiau ailgysylltu â hen ffrindiau dros bryd o fwyd a diodydd neu weld a oes gennych y symudiadau o hyd ar y llawr dawnsio – neu’r ddau – bydd y noson yma yn un i’w chofio! Byddwn yn cynnig noson gofiadwy i chi yn y Taf a Terminal 396, gyda bwyd stryd ardderchog a cherddoriaeth wych o’r cyfnod gan fand a DJs. Ac, wrth gwrs, cewch gyfle i edrych yn ôl ac ymweld â'ch hoff lefydd ar y campws ac ar draws y ddinas yn y 1990au.

Mae'r tocynnau'n £45 (ynghyd â ffi archebu) ac mae pob tocyn yn cynnwys credyd o £20 i brynu bwyd a diod o'r y stondinau bwyd stryd neu yn Undeb y Myfyrwyr. Mae hefyd yn cynnwys mynediad i'r Taf a'r Balconi.

Gellir trefnu aros yn llety'r Brifysgol ar wahân. Bydd y manylion yn cael eu hanfon at bawb sydd â thocyn.

Cardiff Students' Union
Park Place
Cardiff
Cardiff
CF10 3QN

Rhannwch y digwyddiad hwn