Ewch i’r prif gynnwys

Yr 17eg Symposiwm Ethnograffeg Blynyddol

Calendar Dydd Mercher 28 Awst 2024, 09:00-Dydd Gwener 30 Awst 2024, 17:00

Arbedwch i'ch calendr

PTC buidling - wide angle

Yn y Symposiwm byddwn yn:

  • croesawu cyflwyno papurau o unrhyw gefndir disgyblaethol ar unrhyw thema, ar yr amod eu bod yn defnyddio dull ethnograffeg ac yn annog trafodaeth am draddodiad a datblygiadau arloesol
  • cynnal sesiynau pwrpasol ar gyfer datblygu Ymchwilwyr PhD ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa, dan arweiniad Dr Robin Burrow (Prifysgol Efrog)
  • clywed gan siaradwyr gwadd, yr Athro Rick Delbridge (Ysgol Busnes Caerdydd), Dr Jenna Pandeli (Prifysgol Gorllewin Lloegr), a Dr Robin Smith (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd).

Yr 17eg Symposiwm Ethnograffeg Blynyddol

Thema: Argyfyngau, Newid, a Pharhad, Cynhelir gan Ysgol Busnes Caerdydd, Prifysgol Caerdydd, 28-30 Awst 2024

Pwyllgor Trefnu’r Gynhadledd

  • Dr Anna Galazka, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Katherine Parsons, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Tracey Rosell, Ysgol Busnes Caerdydd

Cyd-Gadeiryddion y Gynhadledd

  • Dr Abigail Schoneboom, Prifysgol Newcastle
  • Dr Harry Wels, VU Amsterdam
  • Dr Mike Rowe, Prifysgol Lerpwl
  • Dr Robin Smith, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Tom Vine, Prifysgol Suffolk

Gallwn gadarnhau mai ein prif siaradwr fydd

  • Yr Athro Rick Delbridge, Ysgol Busnes Caerdydd
  • Dr Jenna Pandeli, Prifysgol Gorllewin Lloegr
  • Dr Robin Smith, Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd

Galw am Bapurau

Yn draddodiadol, rydym wedi ystyried ethnograffeg yn ymdrwythiad hydredol ac unigol mewn diwylliannau pell. Fodd bynnag, mae ethnograffeg wedi “newid yn ystod y degawdau diwethaf” (Tevington et al., 2023). Mae llawer o ethnograffwyr heddiw yn cynnal ymchwil trawsddisgyblaethol a chreadigol sy'n cynhyrchu naratif gwreiddiol ac allbynnau gweithredol.

Gwelwyd llawer o ddatblygiadau arloesol ym maes ymchwil ethnograffig. Bu cynnydd yn ethnograffiadau ‘cyflym a budr’ (Vindrola-Padros a Vindrola-Padros, 2018) sy’n canolbwyntio ar gasglu data yn ddwys a thros dymor byr ym maes gofal iechyd sydd eisoes yn profi argyfwng. Mae cyfyngiadau COVID-19 ar ymchwil wyneb-yn-wyneb wedi arwain at gynnydd yn ethnograffiadau digidol sy’n esblygu (Forberg & Schilt, 2023). Mae dadansoddi amlrywogaeth sy'n rhoi llais i fodau nad ydynt yn ddynol wedi cynyddu, yn hytrach na ethnograffiadau dyn-ganolog (Cornips & van den Hengel, 2021). Mae ysgolheigion eraill wedi canolbwyntio ar ddatblygu hunanethnograffeg ôl-weithredol a cydweithredol (Tripathi et al., 2022) a hanesion cnawdol (Wacquant, 2015) lle mae ymchwilwyr yn lleisio profiadau personol ac yn defnyddio eu cyrff i ddatblygu gwell dealltwriaeth gymdeithasegol.

Ond nid proses ymchwil fethodolegol yn unig yw ethnograffeg. Mae hefyd yn ymwneud â pha ddewisiadau a wnawn wrth ysgrifennu neu gyflwyno ein canfyddiadau (Forberg & Schilt, 2023). Mae llyfrau’n caniatáu i ethnograffwyr ail-greu’r bydoedd maent yn drafod mewn ffyrdd sy’n llai cyfyngedig na chyfnodolion gyda therfynau geiriau (e.e. Delbridge, 1998), ond mae hyd yn oed hyn yn creu gofodau fwyfwy ar gyfer adroddiadau naratif hirach a chyflwyniadau anghonfensiynol sy’n defnyddio dulliau creadigol i gyflwyno ffyrdd newydd o feddwl am y ffenomenau a astudiwyd.

Sut mae ethnograffeg wedi arloesi dros y blynyddoedd? Sut olwg sydd ar ddyfodol ethnograffeg (Parsons et al., 2022)? Pa gyfleoedd y mae’r datblygiadau arloesol hyn wedi’u creu, a pha heriau y maent wedi’u cyflwyno? Sut gall ethnograffeg barhau i arloesi heb anghofio ei wreiddiau? Mae'r 17eg Symposiwm Ethnograffeg Blynyddol yn pwyso a mesur yr amrywiaeth o ddatblygiadau arloesol ethnograffig ochr yn ochr â dysgu o ddoethineb y clasuron ethnograffig. Rydym yn croesawu papurau o unrhyw gefndir disgyblaethol ar unrhyw thema, ar yr amod eu bod yn defnyddio dull o ethnograffeg ac yn annog trafodaeth am draddodiad a datblygiadau arloesol.

Manylion Cyflwyno

Dylid anfon crynodebau (hyd at 500 o eiriau) i EthnographySymposium2024@caerdydd.ac.uk, ar ffurf dogfen Microsoft Word (doc. neu docx.) ac sydd wedi’i arbed o dan gyfenw'r awdur ac yna teitl y papur, erbyn dydd Gwener 19 Ebrill 2024. Dylai crynodebau restru'r holl awduron, cyfeiriad e-bost a manylion cyswllt sefydliadol ar frig y dudalen gyntaf. Bydd penderfyniadau ar ba papurau i dderbyn, yn amodol ar ganolwyr allanol, yn cael eu anfon dros e-bost erbyn 26 Ebrill 2024 fan bellaf.

Byddwn ni’n rhoi rhagor o fanylion am y symposiwm a sut i gofrestru yn fuan. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch EthnographySymposium2024@caerdydd.ac.uk

Cyfeirnodau ar gael ar gais

Gweld Yr 17eg Symposiwm Ethnograffeg Blynyddol ar Google Maps
TBC
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn