Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil - Theori ac Esbodiau yn Dearyddiaeth

Dydd Llun, 19 Chwefror 2024
Calendar 13:00-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Professor Henry Yeung (University of Singapore)
Henry Yeung, Athro Nodedig
Adran Daearyddiaeth, Prifysgol Genedlaethol Singapore

Mae Theory and Explanation in Geography yn seiliedig ar ddarllen nifer fawr o ddulliau beirniadol ym maes daearyddiaeth ddynol a’u cysyniadau amrywiol o ddamcaniaeth. Mae’n cyfeirio at y dadleuon diweddaraf ar y dulliau sy'n seiliedig ar fecanwaith o ymdrin â damcaniaeth ac eglurhad ym meysydd cymdeithaseg ddadansoddol, gwyddoniaeth wleidyddol ac athroniaeth y gwyddorau cymdeithasol i lywio barn ddaearyddol nawr ac yn y dyfodol ar ddamcaniaeth.

Mae’r gwaith cysyniadol hwn yn cynrychioli estyniad i waith yr awdur ar ddaearyddiaeth berthynol, realaeth feirniadol ac eglurhad achosol, methodoleg sy’n seiliedig ar brosesau, globaleiddio a damcaniaeth rhwydweithiau cynhyrchu byd-eang, ynghyd â “damcaniaethu’n ôl” a gwybodaeth sy’n benodol i sefyllfa, sy’n cael ei ddyfynnu’n helaeth ac sydd wedi’i gyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw ym maes daearyddiaeth.

Mae hefyd yn datblygu gwaith yr awdur ar y pynciau hyn ymhellach. Mae i’r gwaith sawl pennod sy'n nodi ym mha ffyrdd newydd y gall daearyddiaeth ymgysylltu â’r gwyddorau cymdeithasol ehangach ar hyn o bryd. Mae hefyd yn nodi agendâu ymchwil perthnasol ym maes meddwl daearyddol. Mae’r prif benodau’n rhoi’r pecynnau cymorth cysyniadol sydd eu hangen ar gyfer ysgogi rhaglen ymchwil sy’n ehangu yn y 2020au a thu hwnt. O'i gymharu â thestunau nodweddiadol ar feddwl daearyddol, mae'r llyfr hwn yn llai ôl-syllol a hanesyddol ac yn fwy disgwyliedig ei natur.

Mae’r gwaith yn esbonio pam a sut y gellir datblygu damcaniaethau eglurhaol canolig yn well gan ddefnyddio mecanweithiau achosol a dulliau meddwl perthynol sydd wedi’u hadfywio ym maes y gwyddorau cymdeithasol. Dylai academyddion, daearyddwyr ac ysgolheigion sy'n chwilio am bersbectif unigryw ar agwedd bwysig ar y maes ddarllen Theory and Explanation in Geography.

Gweld Seminar Ymchwil - Theori ac Esbodiau yn Dearyddiaeth ar Google Maps
Committee Room 2
Glamorgan Building
Rhodfa’r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3WA

Rhannwch y digwyddiad hwn