Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil - Dr Kaisa Pankakoski

Dydd Mawrth, 27 Chwefror 2024
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nod y seminar yw canolbwyntio ar ddwy agwedd ar bolisi iaith teuluoedd amlieithog: (1) dulliau rhieni o drosglwyddo ieithoedd a dulliau plant o’u caffael, a (2) profiad y plant o bolisi iaith y teulu. Mae’r seminar yn seiliedig ar ganfyddiadau fy astudiaeth PhD o 14 o deuluoedd sy’n magu plant amlieithog mewn prifddinasoedd ieithyddol amrywiol a swyddogol ddwyieithog (Caerdydd yng Nghymru, a Helsinki yn y Ffindir). Mae canlyniadau'r ymchwil yn awgrymu bod polisi iaith y teulu’n heriol i’r rhieni a’r plant fel ei gilydd. Mewn rhai achosion, gall hyn fod oherwydd nad yw nodau’r rhieni yn rhan o bolisi iaith y teulu’n cael eu cyflawni, neu am nad yw disgwyliadau’r rhieni o ran datblygiad iaith y plant yn cael eu cyflawni, neu am nad yw’r plant yn cydymffurfio ag agweddau ar bolisi iaith y teulu (er enghraifft, maen nhw’n ei chael hi’n llawer ‘haws’ caffael a defnyddio un iaith na’r ieithoedd eraill sy’n rhan o bolisi iaith y teulu). Rhywbeth allweddol a ddaeth i’r amlwg o’r ymchwil, sy’n cael ei archwilio yn y seminar hwn, yw y gallai rhai strategaethau yn rhan o bolisi iaith y teulu gael effaith negyddol ar les y teulu ac, yn achos rhai teuluoedd, arwain at newid sylweddol yn y polisi iaith.

Rhannwch y digwyddiad hwn