Ewch i’r prif gynnwys

Dod yn wyrddach gyda'n gilydd: yr ymdrech ar y cyd i gyrraedd Sero Net

Dydd Mercher, 7 Chwefror 2024
Calendar 08:30-12:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Cardiff University Innovation Network

Rydym yn wynebu argyfwng hinsawdd. Mae cyrraedd Sero Net yn un o atebion y byd i atal/arafu newid hinsawdd. Ym mis Mawrth 2021 cymeradwyodd Senedd Cymru darged sero net ar gyfer 2050. Mae sero net yn golygu cydbwyso allyriadau nwyon tŷ gwydr na ellir eu hosgoi â faint o nwyon rydym yn eu tynnu o'r atmosffer.

Bydd pawb yng Nghymru yn chwarae eu rhan i leihau allyriadau, gyda’r angen i lywodraeth, cymunedau a busnesau gydweithio mewn ymateb i’r argyfwng newid hinsawdd. Mae Cymru, ynghyd â chenhedloedd eraill wedi penderfynu mai Sero Net yw’r strategaeth orau i amddiffyn y Byd rhag cynnydd yn y tymheredd byd-eang.

Mae Ymgyrch Addewid Llywodraeth Cymru yn galw ar sefydliadau o bob sector a diwydiant i feddwl am y newidiadau y gall pob un ohonynt eu gwneud, er mwyn adeiladu ar y camau gweithredu ar y cyd a nodir yn Strategaeth Sero Net Cymru. Mae angen i ni leihau allyriadau i'r swm isaf drwy effeithlonrwydd ynni, yna defnyddio gwrthbwyso i gydbwyso'r allyriadau sy'n weddill sy'n anodd eu dileu. Gallai'r newidiadau hyn gynnwys ymrwymo i lai o deithio busnes, lleihau gwastraff bwyd neu wneud adeiladau'n fwy ynni-effeithlon.

Ymunwch â ni ar 7 Chwefror ar gyfer digwyddiad briffio a rhwydweithio dros frecwast, lle gallwch glywed yn uniongyrchol gan lunwyr polisi, academyddion a diwydiant am y cymorth a'r cyfleoedd sydd ar gael i helpu sefydliadau i roi mesurau gwyrddach ar waith ar y cyd i gyflawni'r targedau Sero Net.

Rydym yn falch iawn i gael cwmni siaradwyr gwadd o’r sefydliadau canlynol:

Gwaith ar y cyd yw Media Cymru i droi Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn ganolfan fyd-eang ar gyfer arloesedd yn y cyfryngau gan ganolbwyntio ar dwf economaidd gwyrdd a theg. Rydym ni'n credu ym mhotensial Cymru i lywio'r diwydiant ymhellach drwy fwy o gyllid, hyfforddiant a chyfleoedd i arloesi. Mae ein Piler Gwyrdd o weithgarwch yn darparu cyllid a hyfforddiant ymchwil a datblygu (Y&D) i’r sector yng Nghymru fel y gallant gyflawni allyriadau carbon sero-net erbyn 2050. Mae Media Cymru hefyd yn bartner ym Margen Newydd Sgrin albert BAFTA: Cynllun Trawsnewid Cymru sydd wedi nodi cynlluniau ar gyfer mynd i’r afael â’r defnydd o ynni a gwastraff yn y diwydiant ffilm a theledu pen uchel.

Mae Sefydliad Arloesedd Sero Net Prifysgol Caerdydd yn cyflawni’r arloesedd hanfodol, y cydweithredu a’r datblygiadau technolegol angenrheidiol sydd eu hangen i gyflawni sero net. Gan ddod ag ymagwedd ryngddisgyblaethol i gwrdd â her sero net, mae'r sefydliad yn canolbwyntio ar atebion cymwys yn y byd go iawn sy'n cael eu gyrru gan gydweithio a phartneriaeth â phartneriaid blaenllaw yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector.

RemakerSpace- Wedi'i leoli ym Mharc Ymchwil Gwyddorau Cymdeithasol Prifysgol Caerdydd, mae'r RemakerSpace yn gyfleuster £1m o bunnoedd sy'n cynnal gwerth £600,000 o offer sydd wedi'i ariannu gan Gronfa Economi Gylchol Llywodraeth Cymru a chyfraniad sylweddol gan Ysgol Busnes Caerdydd. Crëwyd y Ganolfan i gefnogi a hyrwyddo ail-weithgynhyrchu ac atgyweirio i helpu Cymru i ddod yn arweinydd byd yn y newid i economi gylchol ac mae’n gweithio gyda grwpiau cymunedol, busnesau, a darparwyr addysg i yrru’r economi gylchol yng Nghymru a thu hwnt. Darperir teithiau cyn i raglen y digwyddiad ddechrau.
Yn dilyn y gyfres o sgyrsiau, cynhelir trafodaethau grŵp ar yr ystod o heriau a chyfleoedd.

Gweld Dod yn wyrddach gyda'n gilydd: yr ymdrech ar y cyd i gyrraedd Sero Net ar Google Maps
0.47 Event Space
sbarc|spark
Heol Maendy
Cathays
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn