Ewch i’r prif gynnwys

Defnyddioldeb a Niweidioldeb Grym yng Nghyd-destun Ôl-wladychol: Egluro Methiant yr Ymyriad dan arweiniad Ffrainc ym Mali

Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023
Calendar 13:30-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Image of guest speaker, Tony Chafer - Delwedd o siaradwr gwadd, Tony Chafer

Dydd Iau, 14 Rhagfyr 2023

Ystafell 2.22, Yr Ysgol Ieithoedd Modern

Seminar Ymchwil GLAS (Astudiaethau ardal byd-eang seiliedig ar Iaith) a gyflwynir gan Tony Chafer, Athro Emeritws Astudiaethau Affricanaidd a Ffrangeg ym Mhrifysgol Portsmouth

Croeso i bawb 

Crynodeb

Mae’r papur hwn yn defnyddio’r cysyniad o 'ddefnyddioldeb grym' ac mae’n ei gynnig cyferbyniad newydd - sef 'niwiedioldeb grym' - i archwilio pam y methodd yr ymyrraeth filwrol dan arweiniad Ffrainc ym Mali, er y fantais fawr a gafodd Ffrainc o ran ei phŵer materol dros y grwpiau arfog a frwydrasai yn ei herbyn.

Dangosa’r papur sut methodd dull milwrol Ffrainc i addasu'n briodol i gyd-destun cyfnewidiol, ac o ganlyniad, gwnaeth fethu nid yn unig i feithrin defnyddioldeb gwleidyddol ar ffurf ddatrys y gwrthdaro, ond mewn gwirionedd, creu niwiedioldeb grym a waethygodd y gwrthdaro hwnnw. Aildanio tensiynau ôl-wladychol a wna’r methiant hwn ac a wnaeth yn anoddach i newid hynt ac felly gwaethygodd natur anystywallt y gwrthdaro. 

Bywgraffiad

Athro Emeritws Astudiaethau Affricanaidd a Ffrangeg ym Mhrifysgol Portsmouth yw Tony Chafer.

Mae'n hanesydd sy'n hyddysg mewn Affrica Ffrangeg ei Hiaith a’r cysylltiadau rhwng Ffrainc ac Affrica ar ddiwedd y cyfnodau gwladychol ac ôl-wladychol. Cafodd ei lyfr The End of Empire in French West Africa: France’s Successful Decolonization? ei ddiweddaru a'i gyhoeddi’n Ffrangeg yn 2019 mewn rhifyn newydd gan Presses Universitaires de Rennes. Bu iddo gyhoeddi nifer o erthyglau ar bolisi Affrica Ffrainc, gan gynnwys 'Beyond Françafrique – the state of relations between France and Africa', yn Europa Regional (2024); 'France’s Interventions in Mali and the Sahel: A Historical Institutionalist Perspective’ (ar y cyd â Gordon Cumming a Roel van der Velde, 2020); 'France in Mali: towards a new Africa Strategy?', yn International Journal of Francophone Studies (2016), a ‘French African policy in historical perspective’, yn T. Young (gol.), Readings in the International Relations of Africa (2016). Fe wnaeth hefyd olygu (ar y cyd â Margaret Majumdar) The Handbook of Francophone Africa (2024).

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad. 

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mawrth 12 Rhagfyr i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn. 

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.