Ewch i’r prif gynnwys

Cyfres Darlithoedd Caerdydd-Siapan - Dehongli Studio Ghibli: Defnyddio ffynonellau iaith Japaneaidd i ddadbacio mythau a chwedlau animeiddio Japaneaidd

Dydd Mercher, 29 Tachwedd 2023
Calendar 12:00-13:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus gan Rayna Denison, Prifysgol Bryste
Ar-lein
Croeso i bawb

Mae’r Gyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yn archwilio agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu Siapaneg. Ariennir y gyfres gan Sefydliad Japan yn Llundain.

Mae recordiadau o'r Gyfres Darlithoedd Caerdydd-Siapan ar gael i wylio ar ein sianel YouTube.

Gwybodaeth am y gyfres

Mae myfyrwyr Japaneeg fel Iaith Dramor yn cael llai o gyfleoedd i ddod i ddeall gwybodaeth gyfoes berthnasol neu ddeall cyd-destunau diwylliannol oherwydd eu bod yn astudio y tu allan i Japan. At hynny, mae cydnabod cymdeithas Japaneaidd mewn ystyr ehangach ac ystyried sut y gellir cymhwyso eu gallu ieithyddol yn y Japaneeg i'w dyfodol eu hunain yn heriau i ddysgwyr o'r fath.

Mae’n hanfodol felly nid yn unig dysgu’r iaith darged ond hefyd gwybod am agweddau amlweddog y wlad. Ar ben hynny, mae angen cymorth ar athrawon sy'n ymwneud ag addysg iaith Japaneeg y tu allan i Japan o ran cael gafael ar a rhannu'r wybodaeth ddiweddaraf sy'n adlewyrchu llawer o'r tueddiadau a'r normau presennol yn y gymdeithas Japaneaidd gyfoes, er mwyn cyflwyno profiad dysgu mwy dilys.

Nod Cyfres Darlithoedd Ar-lein Caerdydd-Siapan yw rhoi cyfle i’r rhai sy'n astudio iaith a diwylliant Japaneaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, a hefyd yr amrywiol ddysgwyr, athrawon ac ymchwilwyr sydd â diddordeb yn Japan i archwilio a deall agweddau cymdeithasol-ddiwylliannol ar ddysgu iaith.

Crynodeb

Yn yr oes hon o allu cyrchu deunydd yn syth a phlatfformau ffrydio, byddai'n hawdd credu ein bod yn gwybod (ac yn gallu gweld) popeth sydd i'w wybod am animeiddio Siapaneaidd. Fodd bynnag, ers mwy na degawd bellach, mae gwaith Rayna sy’n ymdrin â ffynonellau Siapanaeg gwreiddiol yn dangos bydoedd ystyr wedi’u lled-guddio, dealltwriaethau gwahanol ac anwireddau llawn celwydd a bortreadir yn wirioneddau yn ein trafodaethau ar animeiddio Siapaneaidd ar-lein sy’n fwyfwy cyfnewidiol.

Efallai bod hyn yn syndod hyd yn oed yn wir yn achos un o’r stiwdios yn Siapan y mae pobl wedi ei thrafod a’i deall fwyaf: Stiwdio Ghibli. Er ei fod yn gartref i rai o'r animeiddio Siapaneaidd sydd wedi’i gyfieithu fwyaf ac yn denu cryn gyhoeddusrwydd, mae trafodaethau ar-lein gan gefnogwyr wedi cael trafferth deall hyd a lled y stiwdio hon ar ei thelerau ei hun ac yn ei hiaith ei hun o’i gweld o'r tu allan. Mae hyn wedi creu cyfres o fythau sydd wedi dechrau cylchredeg o amgylch animeiddiadau Stiwdio Ghibli.

Boed yn ail-ddychmygu Totoro yn dduw marwolaeth "shinigami," camddeall agweddau'r stiwdio ar dechnoleg, neu’n fythau sy'n parhau am sut cafodd ei chreu, mae cyfieithu Stiwdio Ghibli i gynulleidfaoedd y tu allan i Siapan yn parhau i fod yn dasg heriol.

Mae'r sgwrs hon yn ceisio unioni rhai o'r mythau hyn, ond hefyd i drafod rhai o'r materion penodol sy'n ymwneud â chyfieithu'r clyweledol ar draws ffiniau.

Bywgraffiad

Rayna Denison yw Athro Ffilm a Chelfyddydau Digidol Prifysgol Bryste, lle mae hi hefyd yn Bennaeth yr Adran Ffilm a Theledu.

Mae hi wedi ysgrifennu dau fonograff: Anime: A Critical Introduction (2015) a Stiwdio Ghibli: An Industrial History (2023). Hi oedd Prif Ymchwilydd ac ymchwilydd y prosiect Manga to Movies, a ariannwyd gan yr AHRC, gan edrych ar arferion masnachfraint ac addasu cyfoes yn Siapan ar draws ystod eang o ffurfiau’r cyfryngau.

Mae Rayna hefyd wedi golygu nifer o gasgliadau academaidd ar ffurf traethawd, gan gynnwys Superheroes on World Screens a enwyd ar gyfer un o wobrau Eisner (gyda Rachel Mizsei-Ward, 2015) a Princess Mononoke: Understanding Studio Ghibli’s Monster Princess (2018).

Gellir dod o hyd i'w gwaith mewn ystod eang o gyfnodolion blaenllaw yn y byd, gan gynnwys Journal of Cinema and Media Studies, Velvet Light Trap, Japan Forum a'r Journal of Japanese and Korean Cinema.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.ukerbyn dydd Mawrth 22 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch trwy'r ddolen ganlynol: https://cardiff.zoom.us/webinar/register/WN_SlVg9DhHROirYwhGOLk3Nw

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn