Ewch i’r prif gynnwys

Ail-lunio’r Map Synhwyrau mewn Llenyddiaeth am Fenyw-leiddiad a Masnachu Cyffuriau ym Mecsico

Dydd Mercher, 6 Rhagfyr 2023
Calendar 13:10-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Darlith gyhoeddus gyda Sarah Bowskill, Athro Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Queen's Belfast

Croeso i bawb

Crynodeb

Mae’r papur hwn yn cyfeirio at Ran IV o nofel Roberto Bolaño 2666 (2004), a elwir yn La Parte de los Crímenes (Y Rhan sy’n sôn am y Troseddau), a’r nofel Trabajos del reino (Twyllwyr y Deyrnas) (2004) gan Yuri Herrera Trabajos, a’r ddwy yn astudiaethau achos er mwyn ystyried y gallu cudd yng ngwaith yr athronydd gwleidyddol, Ffrengig Jacques Rancière i fod yn sylfaen i fframwaith damcaniaethol at ddiben deall y ffyrdd y mae llenyddiaeth yn gallu ymyrryd mewn gwleidyddiaeth. Drwy wneud hynny, mae'r papur yn herio’r honiad gan Zavala (2014) mai efelychu lledaeniad cyfredol y synhwyrau yn unig a wna ffuglen am y fasnach gyffuriau.

Mae Rancière yn cynnig mai'r unig ffordd y gall llenyddiaeth gyfrannu at wleidyddiaeth os ydyw'n gwneud yr un gwaith â gwleidyddiaeth. Gwleidyddiaeth, mae'n dadlau, sy’n ail-lunio’r map synhwyrau. Gall gwleidyddiaeth a llenyddiaeth newid y map synhwyrau os ydynt yn gallu newid argraffau o ofod ac amser, gan gynnwys osgo a symudiadau’r corff, gweddnewid pob peth a phwy bynnag sydd ac nad sy’n weladwy, neu newid pwy sy'n gallu siarad, a’r hyn sy’n cael ei ddweud, ei glywed a'i ddistewi.

Mae’r dadansoddiad a wneir o 2666, felly, yn archwilio i ba raddau y mae'r nofel yn newid dealltwriaeth o fenyw-leiddiad, drwy ffocysu ar y lleoliadau lle y canfyddir cyrff y menywod a symudedd y llofruddion. Ymhellach, mae'n nodi’r motiff sy'n ymddangos ac yn diflannu drwy gydol y nofel ac yn ystyried rôl yr adroddwr wrth iddo ddatgelu'r cynllwyn o distewi sy'n caniatáu i'r llofruddiaethau fynd yn eu blaen. Mae'r dadansoddiad o Trabajos del reino yn tynnu sylw at y ffordd y mae'r nofel yn newid argraffau o fyd y cartél trwy ei bortreadu fel petai o’r un natur â’r cyd-destun ffiwdal, a thrwy adrodd digwyddiadau o safbwynt rhywun o’r tu allan wrth iddo gael pen ffordd o’r Deyrnas a’i byd rhyfedd.

Bywgraffiad

Mae Sarah Bowskill yn Athro Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Queen's Belfast. Fe symudodd i Belfast yn 2011 yn dilyn ei phenodiad academaidd cyntaf ym Mhrifysgol Abertawe, felly mae ganddi atgofion melys o'r amser a dreuliwyd yng Nghaerdydd a De Cymru. Mae'n hyddysg mewn llenyddiaeth America Ladin, gyda phwyslais arbennig ar Fecsico ac ysgrifennu gan fenywod. Hi yw awdures y llyfr a gyhoeddwyd yn ddiweddar o'r enw The Politics of Literary Prestige. Ac fe ysgrifennodd hithau Prizes and Latin American Authors a'r gyfrol The Multimedia Works of Contemporary Latin American Women Writers and Artists a gafodd ei golygu ar y cyd gyda Jane Lavery. Mae'r papur hwn yn rhan o brosiect parhaus am wleidyddiaeth ynghylch llenyddiaeth sy'n rhoi darlun o fenyw-lleiddiad, masnachu cyffuriau a diflaniad pobl ym Mecsico.

Trefn y digwyddiad a recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal ar-lein fel gweminar Zoom a byddwn yn recordio’r gweminar er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 22 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Rhannwch y digwyddiad hwn