Ewch i’r prif gynnwys

Yw Llyfrgelloedd yn Wyrdd? Cynaladwyedd Mewn Llyfrgelloedd Academaidd

Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2023
Calendar 17:30-19:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

  • Beth yw dyfodol cynaladwyedd mewn Prifysgolion?
  • Beth yw cyfraniad llyfrgelloedd tuag at gynaladwyedd?
  • Sut y gallai cynaladwyedd gwybodaeth gyfrannu at yr agenda werdd?

Ymunwch â phanel o siaradwyr diddorol fydd yn craffu ar faes adeiladau, yr amgylchedd, mynediad at wybodaeth a pholisi cyhoeddus – wrth i ni archwilio rôl llyfrgelloedd academaidd a’u cyfraniad tuag at gynaladwyedd. Dilynir y cyflwyniadau gan sesiwn cwestiwn ac ateb, a chyfle i rwydweithio.

Mae’r digwyddiad am ddim, ar agor i bawb, cofrestrwch i fynychu arlein neu i’r digwyddiad corfforol. Saesneg fydd iaith y digwyddiad.

21 Tachwedd 2023
17:30 - 19:30 (Llundain)
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Llyfrgell y Dyniaethau ac Astudiaethau Cymdeithasol Rhodfa Colum
Caerdydd  CF10 3EU

Mae Canolfan Wybodaeth Ewropeaidd Prifysgol Caerdydd yn ganolfan arbenigedd sy’n rhan o’r Gwasanaeth Llyfrgell – yn darparu gwybodaeth ac arbenigedd ar unrhyw fater Ewropeaidd, gwledydd a rhanbarthau Ewrop, sefydliadau cenedlaethol a rhyng-genedlaethol, gan gynnwys gweithgareddau a pholisiau yr Undeb Ewropeaidd (UE). 

Mae'r siaradwyr yn cynnwys:

  • Guiseppe Vitiello, cyfarwyddwr Biwro Ewropeaidd Cymdeithasau Llyfrgelloedd, Dogfennaeth a Gwybodaeth (EBLIDA)
  • Yr Athro Gobinda Chowdhury, athro mewn Gwyddorau Gwybodaeth ym Mhrifysgol Strathclyde a chyn-gadeirydd iSchool
  • Dr. Hiral Patel, Darlithydd mewn Pensaernïaeth a Chyfarwyddwr Ymgysylltu yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru
Gweld Yw Llyfrgelloedd yn Wyrdd? Cynaladwyedd Mewn Llyfrgelloedd Academaidd ar Google Maps
Casgliadau Arbennig ac Archifau
Arts and Social Studies Library
Rhodfa Colum
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn