Ewch i’r prif gynnwys

Y Grefft Ryfela Dosbarth: Streic y glowyr 1984-85 fel y’i portreadwyd drwy lygaid cartwnyddion y wasg

Dydd Mawrth, 21 Tachwedd 2023
Calendar 18:00-19:15

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A cartoon depicting a group of women exclaim with one exclaiming

Bu streic y glowyr rhwng 1984-85 yn un o anghydfodau diwydiannol mwyaf chwerw, caled, rhwygol a phwysig a welwyd yn hanes y DU, a wnaeth y wasg chwarae rhan ganolog a dadleuol ynddi. Ar drothwy ei ben-blwydd yn ddeugain oed, gwnaeth Nicholas Jones adrodd newyddion am y streic ar ran y BBC, gan dynnu ar ei brofiad personol ei hun, yn ogystal â’i archif bersonol o ddarllediadau newyddion, er mwyn hel atgofion am y streic drwy bersbectif cartwnyddion y wasg.

Dewch i wybod mwy am y streic o safbwynt unigryw Jones, wrth iddo drafod y cartwnyddion a’u gweledigaeth o’r arwyr a dihirod, creulondeb yr heddlu, undod y dosbarth gweithiol, a’r anobaith cynyddol a deimlodd y cymunedau yma wrth iddynt ddioddef newyn a wnaeth eu gorfodi ‘nôl i’r gwaith, yn ystod gwrthdaro epig rhwng y ceidwadwyr digyfaddawd a’r gweithwyr cyffredin. Bydd y sgwrs gyhoeddus hon yn cynnig cipolwg ar y streic ei hun, ond hefyd ar gartwnau newyddiadurol y dydd, sy’n aml yn gignoeth o ddidostur, yn ddoniol ar adegau, ac weithiau’n greulon.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r trefnydd, Dr Andy Williams ar willliamsa28@caerdydd.ac.uk

Darlith wyneb-yn-wyneb fydd hon, ac felly, ni fydd yn cael ei darlledu’n fyw na’i recordio.