Ewch i’r prif gynnwys

"Teyrnged Addas": Cael gwared ar Domenni, Adennill Tir a Chadwraeth fel Cofeb ar ôl Trychineb Aberfan

Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023
Calendar 16:10-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white image of Dr Rebecca Jarman smiling at the camera

Darlith gyhoeddus a derbyniad gyda gwin

Yn agored i bawb

Crynodeb

Roedd cwymp tomen rhif 7 ar Ysgol Gynradd Pant Glas yn un o'r trychinebau gwaethaf yn hanes Prydain. Cafodd y trychineb, a oedd yn cyd-daro â chrebachiad diwydiant mwyngloddio Prydain, effaith uniongyrchol ar bolisïau’n ymwneud â thomenni. Mae gwleidyddoli tomenni Merthyr Vale, a brwydr y gymuned i gael gwared ar y tomenni sy'n weddill, wedi'u dogfennu'n dda mewn ysgolheictod presennol. Rydym ni’n gwybod llai am y gwaith glanhau yn Aberfan – a fyddai wedyn yn ymestyn i adennill tomenni ar draws Cymru – ac am yr hyn a wnaethpwyd gyda’r mynyddoedd o wastraff gwenwynig a oedd wedi bod yn sefyll dros y pentref am lawer o’r ganrif flaenorol. Mewn ymgais i gyfrannu at gael dealltwriaeth o drychineb Aberfan, mae Dr Rebecca Jarman yn cynnig rhai canfyddiadau cychwynnol am waredu’r gwastraff o’r diwedd a’r polisïau adennill a ddilynodd ar ôl y trychineb. Gan dynnu ar waith ymchwil archifol a chyfweliadau gyda goroeswyr, daearegwyr a gweision sifil, mae hi'n dogfennu sut y bu i’r tomennydd uwchben Aberfan ddiflannu’n raddol o’r dirwedd. Wrth wneud hynny, mae Dr Jarman yn egluro’r tensiynau a’r teyrngarwch a ddeilliodd o agweddau a oedd yn gwrthdaro tuag at y tomenni sbwriel.

Mae'r papur yn dechrau drwy roi cyfrif am y strategaethau a ddefnyddiwyd gan y gymuned i dynnu sylw’r genedl at y tomenni sbwriel a thrwy edrych ar eu gweledigaethau ar gyfer y dirwedd a adenillwyd. Mae'n mynd ymlaen i ddadansoddi'r cynlluniau cystadleuol ar gyfer cael gwared ar y tomenni ac i nodi'r cwmnïau a fyddai'n elwa o'u dadadeiladu. Mae hefyd yn ystyried agweddau llywodraeth Prydain tuag at alwadau am adennill tir a oedd, o dan straen economaidd diwedd y 1960au, yn cael eu bychanu fel afradlonedd a wnaed gan leiafrif afresymegol. Yn bwysicaf oll, mae’r papur yn dangos, yn Aberfan, fod cael gwared ar y tomenni yn hollbwysig i leihau’r risgiau roeddent yn eu peri i drigolion y pentref wrth hefyd goffáu’r rhai y cymerwyd eu bywydau mor sydyn. Fel y dywedodd ysgrifennydd y Pwyllgor cael gwared ar domenni mor huawdl, “ni fydd unrhyw olion ar ôl o’r olygfa hyll, dim atgof o beth achosodd digwyddiadau trychinebus 1966, a theimlwn y bydd hon yn gofeb fwy teilwng i’r rhai a fu farw na’r holl henebion cain a’r addurniadau cerfluniol y gellir eu dyfeisio”.

Bywgraffiad 

Mae Rebecca yn Athro Cyswllt Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Leeds. Ar hyn o bryd mae hi'n arwain Cymrodoriaeth AHRC o'r enw Moving Mountains, sy'n archwilio etifeddiaeth tirlithriadau yn Ne America a thu hwnt. Mae’r sgwrs hon yn arddangos peth o’r gwaith ymchwil a wnaed yng nghamau cynnar y Gymrodoriaeth, gan gymharu trychineb Aberfan 1966 â thirlithriad a ddinistriodd dref Periw Yungay yn ei chyfanrwydd yn 1970. Llyfr diweddaraf Rebecca yw Representing the Barrios: Culture, Politics, and Urban Poverty in Twentieth-Century Caracas (Gwasg Prifysgol Pittsburgh, 2023). Lleolir ei gwaith ymchwil ar y croestoriadau rhwng diwylliant a hanes yn America Ladin gyfoes, ac mae’n archwilio’r grymoedd, y dyheadau a’r tensiynau sy’n creu lleoedd, cymunedau, a delweddau a rennir mewn amgylcheddau ôl-drefedigaethol a dad-drefedigaethol. Cewch ragor o wybodaeth am ei gwaith ar ei gwefan.

Trefn y digwyddiad & recordio

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal mewn person a byddwn yn recordio’r ddarlith er mwyn ei chyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb.

Cofrestru

Cofrestrwch am y digwyddiad.

Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.  Yn anffodus nid yw'r platfform yr ydym yn ei ddefnyddio'n cynnig y gwasanaeth hwn.

Hysbysiad Diogelu Data

Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.