Clwb Ffilmiau Ysgol Ieithoedd Modern: The Entrepot
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Cyfarwyddwr: Jacky Cheung, 2022
Dosbarth Oedran: 12+
Mae tair ffilm fer, y naill yn annibynnol ar y llall, yn rhoi inni gipolwg ar Hong Kong heddiw. Yn Departure cwrddwn â phâr ifanc o Hong Kong sy'n holi a stilio eu heneidiau ar y ffordd i'r maes awyr. Yn 06:00 AM mae myfyriwr mewn gwewyr meddwl yn mynd i mewn i realiti hunllefus lle mae'n cael ei gorfodi i ymostwng i wyliadwriaeth orfodol y llywodraeth. Yn The Night Before, mae tri o bobl yn eu hugeiniau ac o gefndiroedd gwahanol yn mynd yn ffrindiau cadarn o ganlyniad i gymryd rhan yn y mudiad o blaid democratiaeth.
Bydd sesiwn holi-ac-ateb byw gyda'r cyfarwyddwr Jacky Cheung yn cael ei chynnal o bell ar ôl y dangosiad.
Mae ‘The Entrepot’ wedi ennill gwobr y Ffilm Orau a'r Cyfarwyddwr Gorau Newydd yng Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Liberty 2022 a gynhaliwyd yn Seoul, De Korea.
Mae Jacky Cheung, newyddiadurwr yn Hong Kong, yn credu yng ngrym sinematograffi sy’n ymateb i'r oes ac yn iacháu meddyliau pobl. Cyfarwyddodd y rhaglenni dogfen newyddion “Save PolyU” a “Fiery and Gentle, We are Hongkongers” yn y Mudiad Gwrth-ELAB yn 2019. Dyma'r tro cyntaf iddo adrodd hanes o Hong Kong mewn ffilm ddrama.
Trefnir y digwyddiad hwn mewn partneriaeth â Hongkongers in Britain, sefydliad cymdeithas sifil a sefydlwyd ym mis Gorffennaf 2020 i roi cymorth, cyngor a chefnogaeth i gymuned y bobl o Hong Kong sy'n dod i'r DU neu sydd eisoes wedi cyrraedd.
Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Gwener, 3 Tachwedd i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.
Cofrestru
Ffurflen gofrestru ar gyfer aelodau'r cyhoedd
Ffurflen gofrestru ar gyfer staff a myfyrwyr Prifysgol Caerdydd
Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS