Ewch i’r prif gynnwys

Symposiwm Bywydau Mwslimaidd Cymreig

Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2023
Calendar 12:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Two Muslims praying with information on conference.

Mae Mwslimiaid wedi bod yn rhan o wead Cymru ers dros ganrif, a cheir cysylltiadau hanesyddol dwfn rhwng Islam a Chymru. I hybu ymwybyddiaeth o’r hanes hwn, mae’r Prosiect Islam yng Nghymru wrthi’n datgelu ac yn recordio archif gyfoethog o hanesion bywyd Mwslimaidd yng Nghymru. Mae'r genhedlaeth gyntaf o arloeswyr a ymgartrefodd yng Nghymru yn heneiddio ac yn ein gadael, a chyda hynny, mae eu hargraffiadau, hanesion a straeon ynghylch gwneud eu cartref yng Nghymru yn cael eu colli. Mae pwysigrwydd y stori hon hyd yn oed yn fwy amlwg o gofio bod y genhedlaeth bresennol o Fwslimiaid Cymreig yn "dod i oed" ac yn ceisio deall eu lle yng nghymdeithas Cymru.

Bydd casglu ac yna adrodd hanes Mwslimiaid yng Nghymru yn rhoi cofnod academaidd iddynt o brofiadau eu cymunedau. Mewn cydweithrediad â’r Bywgraffiadur Cymreig, gwahoddir cynigion am bapurau o 10 munud ar gyfer y Symposiwm Bywydau Mwslimaidd Cymreig, sy’n canolbwyntio ar hanes bywyd unigolyn mewn ffordd sy’n adlewyrchu cyfraniadau sylweddol Mwslimiaid i Gymru a’r diwylliant Cymreig, a dylanwad Mwslimiaid Cymreig ar lwyfan fyd-eang.

Gobeithiwn y bydd y symposiwm hwn yn creu sylfaen gynhyrchiol ar gyfer cyflwyno erthyglau newydd i’w cynnwys yn y Bywgraffiadur, sy’n darparu mynediad am ddim i ryw 5,000 o erthyglau bywgraffyddol cryno yn Gymraeg a Saesneg, pob un wedi'i ymchwilio a'i ysgrifennu gan awdur arbenigol a enwir yn y testun. Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn fan cychwyn i bawb sy'n chwilio am wybodaeth fywgraffyddol am bobl ar hyd yr oesoedd y mae eu cyfraniad neu'u hamlygrwydd wedi llunio rhyw agwedd ar fywyd Cymru, yn cynnwys cyfraniadau'r Cymry ar draws y byd. Drwy weithio ar y cyd gyda’r Symposiwm Bywydau Mwslimaidd Cymreig, ceir cyfle i gasglu hanesion bywyd cyfoethog newydd a’u cadw ar gyfer cenhedloedd sydd i ddod.

Dilynwch y ddolen ganlynol i ddarllen mwy am y Bywgraffiadur Cymreig: https://bywgraffiadur.cymru/about.

Danfonwch gynigion (hyd at 150 o eiriau) ar gyfer cyflwyniadau 10-munud at Dr Abdul-Azim Ahmed (ahmedma1@cardiff.ac.uk)  erbyn 13 Tachwedd 2023.

Gweld Symposiwm Bywydau Mwslimaidd Cymreig ar Google Maps
Siambr y Cyngor, Y Prif Adeilad, Prifysgol Caerdydd
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn