Ewch i’r prif gynnwys

Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd-Ugain Mlynedd o'r Cyflog Byw

Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Ers ei lansio ugain mlynedd yn ôl mae mwy na 16,000 o gyflogwyr wedi cofrestru ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol, gan greu codiad cyflog i fwy na 350,000 o weithwyr a chyfanswm trosglwyddiad cyflog o tua £3bn. Mae cyflogwyr cefnogol yn cynnwys corfforaethau sydd wedi’u rhestru gan y FTSE, sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus mawr, elusennau a mentrau cymdeithasol, a miloedd o fusnesau bach.

Mae Ysgol Busnes Caerdydd a Phrifysgol Caerdydd wedi chwarae rhan bwysig yn y daith hon ac mae’n bleser gennym groesawu ein Is-ganghellor newydd, yr Athro Wendy Larner i gynnig rhai geiriau o groeso ar ddechrau ein Sesiwn Hysbysu dros Frecwast i helpu i ddathlu popeth y mae’r Cyflog Byw yn ei wneud.

Bydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Dinas Caerdydd yn ymuno â ni hefyd, a fydd yn trafod sut mae'r cyngor wedi arwain ymgyrch i wneud Caerdydd yn Ddinas Cyflog Byw.

Yna bydd Dr Deborah Hannyr Athro Edmund Heery, a Dr David Nash o Ysgol Busnes Caerdydd yn rhannu canfyddiadau allweddol o’u hadroddiad, Ugain Mlynedd y Cyflog Byw: Profiad y Cyflogwr, a oedd yn seiliedig ar arolwg a gynhaliwyd yn 2021 o’r holl gyflogwyr achrededig i fesur effaith y Cyflog Byw ar eu sefydliadau.

Bydd copi electronig o'r adroddiad ar gael i'r rhai sy'n ymuno ar-lein, ac mae gennym nifer fach o gopïau caled ar gael i unrhyw un sy'n dod yn bersonol.

I’r rhai sydd eisiau gwybod mwy am y Cyflog Byw a’r ymgyrch i’w hyrwyddo, mae ein llyfr, sy’n rhoi dadansoddiad manwl o darddiad ac effeithiau’r cynllun, newydd gael ei gyhoeddi. Mae'r Cyflog Byw Gwirioneddol: Rheoleiddio Sifil a'r Berthynas Cyflogaeth ar gael gan Wasg Prifysgol Rhydychen a phob siop lyfrau dda. The Real Living Wage - Edmund Heery, Deborah Hann, David Nash - Gwasg Prifysgol Rhydychen (oup.com).

Gweld Sesiwn Hysbysu dros Frecwast Ysgol Busnes Caerdydd-Ugain Mlynedd o'r Cyflog Byw ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education