Ewch i’r prif gynnwys

Ysgrifennu Hanes Cyfunrywioldeb Ewropeaidd Modern Cynnar

Dydd Iau, 7 Rhagfyr 2023
Calendar 17:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Writing the History of Early Modern European Homosexuality

Wedi'i chyflwyno gan yr academyddion mwyaf rhagorol yn y DU a thu hwnt, mae Rhaglen Ddarlithoedd flaenllaw'r Academi Brydeinig yn arddangos yr ysgolheictod gorau yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae’r ddarlith hon yn rhan o gyfres fawreddog Raleigh Lectures in History, a sefydlwyd gyntaf ym 1919.

Mae cyfunrywioldeb yng nghyfnod modern cynnar Ewrop wedi cael ei astudio mwy a mwy yn ystod y 40 mlynedd diwethaf. Wynebodd arloeswyr fel Alan Bray (Homosexuality in Renaissance England, 1982) lawer o anawsterau. Ymhlith y rhain roedd y ffaith bod tystiolaeth uniongyrchol yn brin iawn. Fodd bynnag, cafodd byd o ymddygiad ‘sodomiticaidd’ ei ddarganfod wrth i waith archifol gael ei wneud yn ddiweddarach mewn lleoedd fel Fflorens a Fenis. Roedd yr ymddygiad hwn yn wahanol mewn sawl ffordd i gyfunrywioldeb modern – roedd yn gwbl oedran-wahaniaethol ac yn seiliedig ar ‘weithredoedd’ fel arfer, ac nid oedd hunaniaeth arbennig dan sylw.

Diolch yn rhannol i ddylanwad Foucault, cafodd y patrwm hwn ei drin gan ysgolheigion yn un cyffredinol yn Ewrop cyn 1700. Yna, cafodd ysgolheigion drafferth esbonio bodolaeth (yn hysbys iawn ar ôl y dyddiad hwnnw) patrwm gwahanol iawn yng Ngogledd Ewrop, rhwng oedolion yn unig, lle gwelwyd arwyddion o hunaniaeth gyffredin. Y canlyniad oedd honiad hanesyddol hynod anfoddhaol, sef bod cyfunrywioldeb modern newydd ddod i’r amlwg, yn sydyn iawn ac yn eithaf anesboniadwy, ar ddechrau’r 18fed ganrif.

Mae'r ddarlith hon yn cynnig ateb gwreiddiol i'r broblem, a thrwy hynny, yn ei gwneud yn bosibl rhoi cyfrif cydlynol am y tro cyntaf erioed o ddatblygiad hirdymor yr hyn rydym bellach yn ei alw’n gyfunrywioldeb.

  • Am ddim, rhaid cadw lle ymlaen llaw
  • Cofrestru yn agor am 17:00, gyda'r ddarlith yn dechrau am 17:30
  • Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys derbyniad ar gyfer cyfranogwyr ar ôl y ddarlith am 18:45
  • Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb, a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael.
  • Bydd capsiynau byw yn Saesneg ar gael ar gyfer y ddarlith hon

Siaradwr: Syr Noel Malcolm FBA, Uwch Gymrawd Ymchwil, Prifysgol Rhydychen

Astudiodd Noel Malcolm Hanes a Llenyddiaeth Saesneg yng Ngholeg Peterhouse Prifysgol Caergrawnt. Dechreuodd ei yrfa’n un o Gymrodyr Coleg Gonville a Caius Prifysgol Caergrawnt. Wedi hynny, Noel oedd colofnydd gwleidyddol ac yna Olygydd Tramor cylchgrawn The Spectator. Ym 1999, bu'n ddarlithydd ym Mhrifysgol Harvard. Rhoddodd Ddarlithoedd Carlyle ym Mhrifysgol Rhydychen yn 2001. Ers 2002, mae wedi bod yn Uwch-gymrawd Ymchwil yng Ngholeg All Souls Prifysgol Rhydychen. Mae’n un o Gymrodyr yr Academi Brydeinig ac yn un o Gymrodyr Anrhydeddus Colegau Peterhouse, y Drindod a Gonville a Caius Prifysgol Caergrawnt. Mae wedi cyhoeddi gwaith ar amrywiaeth o bynciau, boed hanes athroniaeth (gan ddangos diddordeb arbennig mewn Thomas Hobbes) neu hanes gwledydd y Balcan, gan gynnwys hanes y cysylltiadau rhwng Ewrop yn y cyfnod modern cynnar a’r byd Islamaidd. Cafodd ei urddo’n farchog yn 2014 am wasanaethau i ysgolheictod, newyddiaduraeth a hanes Ewrop

Gweld Ysgrifennu Hanes Cyfunrywioldeb Ewropeaidd Modern Cynnar ar Google Maps
Arddangosfa Adeilad Bute
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Rhannwch y digwyddiad hwn