BookTalk Caerdydd: Wars of the Interior
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Bydd sesiwn cyntaf BookTalk Caerdydd 2023-24 yn canolbwyntio ar drafodaeth gyda’r newyddiadurwr o Beriw Joseph Zárate am ei lyfr Wars of the Interior. Mae'r llyfr ffeithiol hwn sydd wedi ennill sawl gwobr yn datgelu'r drasiedi, trais a llygredd sy'n nodweddu tynfa tri o adnoddau mwyaf gwerthfawr Periw: aur, olew a phren.
O safbwynt cymunedau brodorol Periw ac yn rhoi llais i arwyr lleol ac ymgyrchwyr amgylcheddol, mae'n cynnig cipolwg dwfn i ddiwylliannau Amasonaidd ym Mheriw a'r gwledydd cyfagos sy'n cael eu heffeithio fwyaf. Mi fydd yn sgwrsio gyda'i gyfieithydd Annie McDermott.
Bydd y digwyddiad am ddim i bawb ac yn cael ei gynnal drwy Zoom.