Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil | Yr Athro Nicola Daly (Prifysgol Waikato)

Dydd Mawrth, 7 Tachwedd 2023
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A all rhywbeth mor fach â llyfr lluniau gyfrannu at rywbeth mor fawr â phroses adfywio iaith? Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn sôn am ymchwil a wnaed yn Aotearoa Seland Newydd sy’n awgrymu bod hynny’n bosibl.

Dim ond dwy iaith swyddogol sydd gan Aotearoa Seland Newydd, er bod sawl iaith yn cael ei siarad yno. Er bod y rhan fwyaf o Selandwyr Newydd (dros 90% ohonynt) yn siarad Saesneg bob dydd, nid Saesneg yw un o’r ieithoedd swyddogol. Rhoddwyd statws cyfreithiol i Te Reo Māori yn 2007, ac yn 2016, gwnaed yr un peth yn achos Iaith Arwyddion Seland Newydd.

Te Reo Māori yw iaith frodorol Seland Newydd. Roedd yn iaith ar farw am gyfnod, ond ers y 1980au cynnar, mae’r llywodraeth wedi gwneud ymdrech bwrpasol i adfywio’r iaith. Y dystiolaeth o hynny yw’r ieithoedd sy’n cael eu defnyddio mewn llyfrau lluniau. Mae llyfrau lluniau dwyieithog yn defnyddio dwy iaith i adrodd stori, ochr yn ochr ag iaith weledol y lluniau. Yn y cyflwyniad hwn, byddaf yn rhannu amserlen sy’n dangos y cynnydd yn y defnydd o Te Reo Māori ochr yn ochr â Saesneg mewn llenyddiaeth plant.

Ar ôl hynny, byddaf yn rhannu’r ymchwil lle cafodd llyfrau lluniau Māori-Saesneg eu trin a’u trafod gyda rhieni i blant mewn lleoliadau cyfrwng Saesneg ar gyfer y blynyddoedd cynnar a oedd yn cynyddu’r defnydd o Te Reo Māori yn eu haddysg bob dydd. Mae’r canfyddiadau'n awgrymu bod y llyfrau bach hyn yn wir yn gallu cynyddu'r defnydd o iaith frodorol ar farw yn y cartref gan rieni a phlant.

Gweld Seminar Ymchwil | Yr Athro Nicola Daly (Prifysgol Waikato) ar Google Maps
Council Chamber
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn