Ewch i’r prif gynnwys

Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2023

Dydd Gwener, 10 Tachwedd 2023
Calendar 10:55-11:20

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Remembrance

Bydd Diwrnod y Cadoediad ar ddydd Sadwrn eleni. Oherwydd hynny, gwahoddir y staff, y myfyrwyr, cyn-fyfyrwyr a’r cyhoedd i ddod i Wasanaeth Coffa’r Brifysgol ddydd Gwener, 10 Tachwedd 2023, a fydd yn cael ei arwain gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Wendy Larner, y Caplan Cydlynu, y Parch Delyth Liddell a chaplaniaeth aml-ffydd y Brifysgol.

Gofynnir i’r rhai sy’n dymuno bod yn bresennol gwrdd yn Oriel John Viriamu Jones (VJ), Prif Adeilad am 10:50am er mwyn i’r digwyddiad allu dechrau ar amser.

Byddwn yn ffrydio'r digwyddiad yn fyw a chaiff y sawl sy'n dymuno gwylio Gwasanaeth Coffa’r Brifysgol ar-lein, a chadw’r distawrwydd am ddwy funud, wneud hynny ar wefan y Brifysgol o 10:55 ymlaen.

Watch Act of Remembrance livefeed

Noder y bydd y mynediad at Oriel VJ o fynedfa’r Prif Adeilad ar Rodfa’r Bedol ar gau rhwng 10.50am - 11.20am a rhoddir mynediad o’r Brif Fynedfa yn ystod yr amser hwn i’r rhai a fydd yn mynd i’r Gwasanaeth Coffa yn unig. Ni fydd mynediad at yr oriel ar y llawr cyntaf o Oriel VJ yn ystod y Gwasanaeth a bydd mynediad i’r Llyfrgell Gwyddoniaeth wedi’i gyfyngu.

Ni fydd hyn yn effeithio ar y mynediad i’r Prif Adeilad drwy’r Ysgol Cemeg ac Ysgol Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd.

Gweld Gwasanaeth Coffa Prifysgol Caerdydd 2023 ar Google Maps
Oriel Viriamu Jones
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn