Ewch i’r prif gynnwys

Gadewch i ni siarad am gig sydd wedi ei dyfu mewn labordy: myfyrdodau ar wleidyddiaeth gymdeithasol tyfu cig yn y modd hwn

Dydd Iau, 16 Tachwedd 2023
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture series logo

Mae cig wedi’i dyfu yn ganlyniad i dechnoleg newydd sy'n ceisio tyfu celloedd mewn fatiau i gynhyrchu cyhyrau yn fwyd i’w fwyta. Ers yn gynharach yr haf hwn, gellir ei werthu’n gyfreithlon yn yr Unol Daleithiau, ond dim ond mewn symiau cyfyngedig y mae ar gael. Fodd bynnag, gyda bron i 100 cwmni ledled y byd yn gweithio yn y maes, mae'n debygol y bydd yn dod yn gyfreithlon mewn rhagor o genhedloedd dros y blynyddoedd i ddod.

Bydd Dr Stephens yn trafod ble mae'r dechnoleg arni ar hyn o bryd, pam mae pobl eisiau creu’r cynnyrch hwn, a beth yw'r heriau. Mae cig wedi’i dyfu yn addo dyfodol gwahanol. Ond mae p’un ai ddaw’r dyfodol hwnnw’n realiti neu a yw’r dyfodol hwnnw’n rhywbeth mae pobl ei eisiau, yn aros yn gwestiynau agored o hyd.

Rhannwch y digwyddiad hwn