Ewch i’r prif gynnwys

Cyffuriau colli pwysau newydd ar gyfer gordewdra

Dydd Iau, 12 October 2023
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Science in Health Public Lecture series logo

Yn gyffredinol, ystyrir rheoli pwysau a gordewdra yn "fater sy’n ymwneud â ffordd o fyw". Fodd bynnag, mae mwyfwy o dystiolaeth wyddonol yn dangos bod pwysau yn cael ei reoli'n ofalus yn y corff. Mae nifer o signalau sy'n rheoli archwaeth, a gall y rhain amrywio o unigolyn i unigolyn.

Yn ddiweddar, mae Novonordisk wedi rhyddhau'r cyffur Wegovy, sy'n debyg i gemegyn lleihau archwaeth sy’n cael ei ryddhau o'r perfedd ar ôl bwyta. Cafodd y cyffur hwn ei farchnata'n wreiddiol ar gyfer diabetes, ond ers cael ei werthu ar gyfer gordewdra, mae wedi rhagori ar ddisgwyliadau o ran gwerthiant, ac erbyn hyn nid oes digon o’r cyffur ar gael i drin pobl sydd â diabetes. Mae cyffuriau mwy effeithiol na Wegovy yn ymddangos ar-lein yn UDA.

Yn y ddarlith hon, byddwn yn trafod beth sy'n rheoli pwysau'r corff, sut mae'r cyffuriau hyn yn gweithio a beth fyddai'r dyfodol pe baent ar gael yn rhad ac am ddim.

Rhannwch y digwyddiad hwn