Ewch i’r prif gynnwys

Y tu hwnt i ffiniau: Cryfhau ymchwil ar y cyd rhwng yr UE a’r DU

Dydd Gwener, 24 Tachwedd 2023
Calendar 11:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

EU and UK woven flags

Ers refferendwm 2016, mae dyfodol prosiectau ymchwil ar y cyd rhwng yr UE a’r DU wedi bod yn amlwg iawn. Ym mis Medi, cawsom y newyddion da y bydd y DU yn gysylltiedig â rhaglen Horizon Europe. Mae gan Gymru hanes nodedig o gydweithio ym maes ymchwil â gweddill Ewrop ac mae’n gartref i lawer o ymchwilwyr o’r UE ar bob cam o’u gyrfa, ond sut rydym yn parhau i feithrin a chryfhau’r berthynas hon?

Rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am hanner diwrnod o drafod bywiog, dadlau, uchafbwyntiau’r ymchwil a rhwydweithio.

Rhaglen

11:00 – 11:10 Croeso

  • Yr Athro Ole Petersen CBE MAE FRS FLSW ML, Athro’r Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyfarwyddwr yr Academia Europaea, Canolfan Wybodaeth Caerdydd
  • Yr Athro Rudolf Allemann FLSW, Rhag Is-Ganghellor Gweithgarwch Rhyngwladol a Recriwtio Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd

11:10 – 12:00 Panel 1: Yr heriau a’r cyfleoedd sydd i’w cael pan fydd yr UE a’r DU yn cydweithio

‘Sut y gallwn weithio’n effeithiol yn nhirwedd newydd ar gyfer ymchwil rhwng yr UE a’r DU?’

* Yr Athro Christopher Smith MAE, Cadeirydd Gweithredol Cyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a Hyrwyddwr Rhyngwladol UKRI
* Jon Brookes, Cynghorydd yr UE, Swyddfa Ymchwil y DU (UKRO), Brwsel
* Dr Fabia Jones, Prif Gynghorydd, Swyddfa Cyswllt Senedd Ewrop yn y Deyrnas Unedig
* Dr Niek Buurma, Uwch Ddarlithydd Cemeg Organig Ffisegol, Prifysgol Caerdydd

12:00 – 12:50 Trawsnewid Ewrop drwy ymchwil

Bydd y sesiwn hon yn tynnu sylw at yr ymchwil sy’n cael ei gwneud gan wladolion yr UE neu sy’n cael ei hariannu drwy raglenni’r UE yng Nghymru. Caiff ymchwilwyr ar ba bynnag gam yn eu gyrfa eu gwahodd i rannu eu gwaith ar ffurf poster neu mewn cyflwyniadau byr tebyg i rai TED.

12:50 – 13:30 Cinio

13:30 – 14:15 Panel 2: Y broses ymgysylltu ar bolisïau ar waith (Cadeirydd: Yr Athro Ole Petersen CBE MAE FRS FLSW)

‘Beth yw ymgysylltu ar bolisïau? Pam mae’n bwysig? Sut y gallwch gymryd rhan?’

  • Syr Richard Catlow FRS FLSW ML MAE, Athro Cemeg Catalytig a Chyfrifiannol ym Mhrifysgol Caerdydd a Chyd-lywydd Partneriaethau Rhyng-Academi (IAP)
  • Yr Athro Steve Martin, Cyfarwyddwr Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ac Athro Polisi Cyhoeddus a Rheolaeth yn Ysgol Busnes Caerdydd
  • Yr Athro Hywel Thomas CBE FRS MAE, Athro Peirianneg Sifil, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil Geoamgylcheddol a Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru

14:15 – 15:00 Sesiwn rwydweithio

Bydd y digwyddiad yn dod i ben â sesiwn rwydweithio, gan eich helpu i wneud cysylltiadau a rhannu syniadau.

Dyma ddigwyddiad agored ac am ddim i ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa.

Nod y digwyddiad hwn ar y cyd, a drefnir gan Ganolfan Wybodaeth Academia Europaea Caerdydd a CONNECTS-UK (CONNecting European Communities Through Science in UK), yw cryfhau cysylltiadau ymchwil rhwng Cymru, yr UE a’r DU, gan greu pontydd i weithio ar y cyd yn y dyfodol a chynnydd cyfunol.

Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg. Hoffech chi gyfrannu yn Gymraeg yn y digwyddiad? Gallwn ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gyfer y sesiwn holi ac ateb os oes digon o alw.
Cysylltwch â ni: AECardiffHub@caerdydd.ac.uk

Gweld Y tu hwnt i ffiniau: Cryfhau ymchwil ar y cyd rhwng yr UE a’r DU ar Google Maps
Siambrau’r Cyngor, Prif Adeilad Prifysgol Caerdydd
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn