Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil - Dr Llewelyn Hopwood

Dydd Mawrth, 5 Rhagfyr 2023
Calendar 16:00-17:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Yn ystod y papur hwn, ystyriaf beth oedd yr elfennau angenrheidiol wrth greu’r farddoniaeth ddelfrydol yng nghyfnod Beirdd yr Uchelwyr (c. 1300–c. 1600). Gwnaf hynny drwy dalu sylw manwl i’r hyn a ddywed y ffynonellau am sain y fath farddoniaeth: o’r camau cychwynnol i’r cynnyrch terfynol.

Edrychwn yn gyntaf ar bwysigrwydd cefndir y bardd, e.e. ei ddosbarth barddol (pencerdd neu glerwr) a’i gefndir cenedlaethol (Cymro, Gwyddel, Sais). Wedi taflu cipolwg ar y portreadau o ieithoedd gwahanol Cymru, gwrandawn ar y fath o Gymraeg a ddisgrifir, gan ganolbwyntio ar sain yr iaith ddisgwyliedig a’r iaith y dylid ei hosgoi.

I gloi, trof at rôl cerddoriaeth – sut i drin a thrafod yr offerynnau cyfeilio – eto gan dalu sylw gorddyledus i’r ansoddeiriau a’r delweddau a ddefnyddir i ddisgrifio hynny.

Rhannwch y digwyddiad hwn