Ewch i’r prif gynnwys

Seminar Ymchwil | Yr Athro David Willis (Coleg yr Iesu, Prifysgol Rhydychen)

Dydd Mawrth, 17 October 2023
Calendar 13:00-14:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Bydd y seminar hon yn cyflwyno'r rhan Gymraeg o'r prosiect Trydarieitheg (Tweetolectology), prosiect i fapio amrywio gramadegol mewn nifer o ieithoedd gan ddefnyddio data cyfryngau cymdeithasol (Twitter). Bydd yn nodi sut yr aethpwyd ati i gasglu corpws Cymraeg o ryw 18m o eiriau ac i arddangos data ohono ar ffurf mapiau, gan edrych ar nifer o enghreifftiau sy’n dangos newid ieithyddol ar y gweill ac o bosib patrymau newydd o amrywio. Mae’r data cyfryngau cymdeithasol ar y naill law yn ddilys â chanfyddiadau'r astudiaethau tafodieithol sydd ar glawr, megis y Survey of Welsh Dialects, ond hefyd yn cynnig ffenestr i newidiadau mwy diweddar, rhai ohonynt yn adlewyrchu adfer iaith ac effeithiau'r iaith safonol ar yr iaith lafar.

Cofrestrwch - https://forms.office.com/e/TReHNsDi6Y

Neu ebostiwch - cymraeg@cardiff.ac.uk

Traddodir y seminar yn y Gymraeg dros Zoom.

Rhannwch y digwyddiad hwn