Ewch i’r prif gynnwys

Dyfodol Tywyll: Archaeoleg Athronyddol Gobaith

Dydd Mawrth, 17 October 2023
Calendar 20:30-22:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Photo of child's face in profile in darkness. Child is looking towards the right of the image, towards a source of a light not shown.

Darlith Flynyddol y Sefydliad Athroniaeth Brenhinol yng Nghaerdydd 2023

Yr Athro Paul Taylor (Prifysgol Califfornia, Los Angeles)

Ar drothwy'r Rhyfel Byd Cyntaf, ysgrifennodd Virginia Woolf y geiriau hyn: “The future is dark, which is on the whole, the best thing the future can be….” Y temtasiwn yw tybio bod y tywyllwch yn cuddio'r anhysbys a'r bygythiol. Mae'n fwy heriol meddwl amdano fel y gwnaeth Woolf, sef ei fod yn gyforiog â phosibilrwydd, hyd yn oed ar yr adegau mwyaf enbyd. Fel y dywedodd Howard Thurman, gall y tywyllwch fod yn ddisglair.

Rydym yn byw yn yr hyn y byddai llawer o bobl yn barod i’w ddisgrifio’n oes dywyll. Yn yr oes hon, rydym wedi gweld (ymhlith llawer o bethau eraill) argyfwng iechyd cyhoeddus unwaith-mewn-canrif, gwaredigaeth barhaus goruchafiaeth wenwynig y dyn gwyn ac arweinyddiaeth unbenaethol, llai o ymddiriedaeth mewn sefydliadau cyhoeddus, gan gynnwys llai o gefnogaeth iddynt, a mwyfwy o dystiolaeth o’r difrod sydd ar ddod i’r hinsawdd. Pa bosibiliadau disglair sy’n disgwyl yn y tywyllwch hwn?

Yn “Dyfodol Tywyll”, byddwn yn ystyried ambell senario o ddinistr sy’n diffinio ein hoes enbyd, a hefyd yn treiddio’n ddyfnach iddynt i weld pa drafferthion a dyfodol sy’n ein disgwyl.

​Croeso i bawb! Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Athroniaeth Brenhinol sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn.

Rhannwch y digwyddiad hwn