Prifysgol Caerdydd yng Ngardd Einstein, Gŵyl Green Man
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Dewch i gwrdd â'r tîm o'n Hysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Amgylchedd yng Ngardd Einstein yng Ngŵyl Green Man.
Bydd y gweithgareddau'n cynnwys gorsaf brofi ansawdd dŵr i edrych ar lefelau llygredd yn Afon Wysg, prosiectau gwyddoniaeth dinasyddion a defnyddio seismomedrau.
Byddwn hefyd yn siarad am y daeareg leol a'r daeargryn diweddar o amgylch Crughywel yn ogystal â gwahodd ymwelwyr i wneud modelau o ficroffosilau i ddangos eu pwysigrwydd wrth ddeall hinsoddau'r gorffennol.
Crickhowell
NP8 1LP