Ewch i’r prif gynnwys

Y Cynhwysion Cudd sy'n gwneud Greggs mor Arbennig

Dydd Mercher, 12 Gorffennaf 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience
Mae Greggs yn un o'r cwmnïau hynny y mae pawb fel pe baent yn eu caru. P'un ai ydych chi'n hoff o rolyn selsig fegan yn syth allan o'r popty, stêc bêc neu salad blasus, mae Greggs yn cynnig bwyd a diod sy'n ddibynadwy o ffein ac yn hollbwysig, yn fforddiadwy. Ond a oeddech chi’n gwybod eu bod nhw hefyd yn cyflwyno amrywiaeth o fentrau 'Gwneud yn Dda' i sicrhau bod eu hymagwedd yn gynaliadwy a’u bod yn rhoi yn ôl i’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu?

Yn wyneb cymaint o siopau manwerthu yn cau ar y stryd fawr diolch i’r argyfwng costau byw, y pandemig, a newidiadau i ddewisiadau defnyddwyr, mae Greggs wedi llwyddo i fynd yn groes i’r duedd, gan agor mwy a mwy o allfeydd mewn amrywiaeth o wahanol leoliadau ledled y DU, gan gynyddu eu cyfran o'r farchnad yn barhaus.

Mae'n rhaid bod mwy i'r llwyddiant hwn na rysáit eu crwst.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Richard Hutton, Prif Swyddog Ariannol Greggs, wedi cytuno i gyflwyno Sesiwn Hysbysu olaf y flwyddyn academaidd yma, i rannu gyda ni Y Cynhwysion Cudd sy'n gwneud Greggs mor Arbennig.

*Nodir bod y Sesiwn Hysbysu yma ar-lein yn unig*

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education