Ewch i’r prif gynnwys

Milltir Butetown - Butetown Mile

Dydd Sul, 9 Gorffennaf 2023
Calendar 09:00-10:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Milltir Butetown - Butetown Mile

Wedi'i ail-lansio yn 2013 gan Dr Sarah Fry, Darlithydd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag aelodau o'r gymuned, mae Butetown yn un o dri lle yn y byd i gynnal ras ffordd milltir syth ochr yn ochr â Fifth Avenue, Efrog Newydd, a'r Champs-Elysees, Paris!

Yn cael ei chynnal ddydd Sul 9 Gorffennaf, mae gan Filltir Butetown ddau gategori:

Ras elît – ar gyfer rhedwyr sydd am gymryd y filltir mewn llai na 7 munud a ddelir o dan reoliadau Athletau Cymru. Mae mynediad ar gyfer pobl dros 18 oed yn unig.

Ras Hwyl – i bawb arall! Cymerwch y filltir ar eich cyflymder eich hun. Addas ar gyfer pobl o bob gallu - mae croeso i deuluoedd.

Mae'r llwybr o ben Stryd Bute i Fae Caerdydd, gyda'r llinell derfyn yng nghefn Canolfan y Mileniwm. Mae'r cwrs yn syth, felly mae'n gyfle gwych i gael y gorau personol.

Cofrestrwch eich lle yma

n/a
Top o Stryd Bute. Top of Bute Street
Butetown
Butetown, Caerdydd, Cardiff
CF10

Rhannwch y digwyddiad hwn