Three Minute Thesis (3MT®): cipolwg unigryw ar fyd y PhD
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

P’un a ydych yn astudio ar gyfer gradd baglor, gradd meistr neu PhD neu’n awyddus i glywed sôn am rywfaint o ymchwil ddiddorol, mae bod yn rhan o’r gystadleuaeth Three Minute Thesis (3MT®) yn ffordd hwyl ac ysbrydoledig o dreulio prynhawn.
Yn y gystadleuaeth, bydd myfyrwyr doethurol ar draws y Brifysgol yn cael eu herio i gyflwyno eu hymchwil mewn tair munud yn unig, a hynny drwy ddefnyddio un sleid yn unig. Mae hyn yn golygu y byddwch yn clywed sôn am ystod amrywiol o brosiectau ymchwil, wedi’u crynhoi mewn tair munud bob tro. Wedi hynny, bydd panel o feirniaid yn penderfynu pwy fydd yn mynd ymlaen i’r rownd gynderfynol genedlaethol (a’r rownd derfynol, gyda lwc!). Gall y rhai yn y gynulleidfa hefyd bleidleisio dros eu hoff gystadleuydd, a fydd yn ennill ‘Gwobr y Bobl’.
Mae’r gystadleuaeth yn cynnig cipolwg unigryw ar fyd y PhD, yn ogystal â chyfle i weld amrywiaeth eang o ddulliau cyflwyno ar waith. Efallai y byddwch hefyd yn dysgu ambell i beth ar gyfer eich cyflwyniadau eich hun. Ar ôl y gystadleuaeth, cewch hefyd y cyfle i gymdeithasu â myfyrwyr eraill dros luniaeth.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar dudalennau gwe Vitae ar y gystadleuaeth.
1-3 Museum Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3BD