Ewch i’r prif gynnwys

Potensial Rhagnodi Cymdeithasol i Gymru

Dydd Mawrth, 23 Mai 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn ddull arloesol o ymdrin â gofal iechyd sy’n cynnwys cysylltu pobl, beth bynnag fo’u hoedran neu gefndir, â chymorth cymunedol i reoli eu hiechyd a’u lles yn well, ac yng Nghymru, lle mae cyfraddau salwch cronig ac ynysigrwydd cymdeithasol yn uchel, mae ganddo’r potensial i gael effaith sylweddol ar iechyd y cyhoedd.

Mae cysyniad y dull hwn o weithredu wedi cael cryn sylw gwleidyddol a chefnogaeth drawsbleidiol yng Nghymru gyda Rhaglen Lywodraethu 2021-2026 yn ymrwymo i gyflwyno fframwaith Cymru gyfan i gyflwyno presgripsiynu cymdeithasol, a Strategaeth Cymunedau Cysylltiedig 2020 yn nodi’r bwriad i gefnogi datblygiad cynlluniau presgripsiynu cymdeithasol.

Yn y Sesiwn dros Frecwast hwn, mae’n bleser gennym gael cwmni Lynne Neagle AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Llesiant, a fydd yn rhannu rhai o ganfyddiadau allweddol ymarfer ymgynghori diweddar y Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol, yn ogystal ag amlinellu’r hyn sydd ar waith, yn ogystal â bwriadau’r dyfodol.

Bydd Rebecca Fawcett o Ray of Light Wales yn ymuno efo ni i rannu eu profiadau o Bresgripsiynu Cymdeithasol, a bydd Dr Anna Galazka o Ysgol Busnes Caerdydd a’r Athro Ellie Lindsay, OBE, o Brifysgol Suffolk yn ymuno â ni i rannu manylion eu gwaith ar y model seicogymdeithasol Lindsay Leg Club. Byddwn hefyd yn falch o gael cwmni David Moss, Pennaeth Ardaloedd GIG Bryste, Gwlad yr Haf a De Swydd Gaerloyw, i rannu eu hymagwedd at gynnig iechyd meddwl integredig newydd gyda phresgripsiynu cymdeithasol yn greiddiol iddo.

Gweld Potensial Rhagnodi Cymdeithasol i Gymru ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education