Ewch i’r prif gynnwys

BookTalk Caerdydd: Watership Down

Dydd Mawrth, 9 Mai 2023
Calendar 19:00-21:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Watership Down

Mae'n bleser gan BookTalk Caerdydd eich gwahodd i'n digwyddiad ar-lein nesaf ddydd Mawrth 9 Mai 2023, ar Watership Down gan Richard Adams. Cynhelir y digwyddiad ar Zoom ac mae croeso i bawb. I gyd-fynd â’r digwyddiad bydd dangosiad o addasiad ffilm 1978 o Watership Down yn Snowcat Cinema ym Mhenarth (dyddiad i'w gadarnhau).

Mae Fiver y gwningen yn cael gweledigaeth erchyll o’r gwaren sy’n gartref iddo, yn cael ei ddinistrio gan beiriannau bodau dynol. Pan mae’r Brif Gwningen yn gwrthod gwrando, daw Hazel, brawd Fiver, yn arweinydd anfoddog ar griw o bersonoliaethau amrywiol sy’n penderfynu ffoi. Wedi'u herlid gan eu cyn-ffrindiau a'u dychryn gan ysglyfaethwyr, maent yn wynebu taith anodd ac epig ar draws tir fferm a bryniau sialc hynafol Lloegr. Ond ble gallant wneud eu cartref, a phwy ddylen nhw ymddiried ynddyn nhw? Oherwydd mae llawer o wahanol fathau o faglau, a chyn i'w daith ddod i ben, bydd dyfeisgarwch a dewrder Hazel yn cael eu profi i'r eithaf.

Mae’r clasur o nofel gan Richard Adams yn cyfuno elfennau o ddameg wleidyddol a chymdeithasol gyda stori ddirdynnol am antur. Mae ei bersbectif llygad cwningen o dirwedd Gogledd Hampshire wedi’i ddramateiddio’n fywiog ac argyhoeddiadol ac mae gan Hazel a’i ffrindiau seicoleg a diwylliant amlweddog, sy’n cynnwys iaith, crefydd a straeon y cymeriad balch hwnnw El-ahrahairah, Prince with a Thousand Enemies. 

Wedi'i greu’n wreiddiol yn adloniant ar gyfer plant Adams ar deithiau car hir, cafodd Watership Down ei wrthod gan nifer o gyhoeddwyr a oedd yn teimlo ei fod yn delio â themâu rhy aeddfed ar gyfer darllenwyr iau, a’i fod yn ymddiddori'n ormodol ag anifeiliaid bach i fod o ddiddordeb i gynulleidfa hŷn. Fodd bynnag, pan gafodd ei gyhoeddi ym 1972, daeth y llyfr yn werthwr gorau yn gyflym ac fe’i haddaswyd yn ffilm nodwedd animeiddiedig sydd wedi swyno a hefyd trawmateiddio cenedlaethau o blant. Â hwn yn fyd y tu hwnt i'r byd dynol, mae Watership Down yn parhau i fod yn enghraifft heb ei debyg o'r byd annaearol Seisnig ac yn atgof brawychus o'r creaduriaid y mae ein gwareiddiad ni yn eu difa heb feddwl ddwywaith am hynny.

Mae gennym y fraint o groesawu tri siaradwr arbenigol i’n harwain yn ein hystyriaethau a’n trafodaethau ynghylch Watership Down:

Mae Dr Dimitra Fimi yn Uwch Ddarlithydd ym maes Ffantasi a Llenyddiaeth Plant ym Mhrifysgol Glasgow, ac yn Gyd-gyfarwyddwr y Ganolfan ar gyfer Ffantasi a’r Rhyfeddol. Mae hi'n arbenigwr a gydnabyddir yn rhyngwladol ar J.R.R. Tolkien, ac mae wedi cyhoeddi ar lenyddiaeth ffantasi yn ehangach, yn ogystal ag ar ganoloesoldeb/llên gwerin mewn ffantasi modern.

Mae Dr Catherine Butler yn Ddarllenydd ym maes Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Mae Dr Lisa Sainsbury yn Athro Cyswllt ym maes Llenyddiaeth Plant yn Ysgol y Dyniaethau a Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Roehampton. Mae ymchwil barhaus yn canolbwyntio ar yr athronyddiaeth sy’n ymhlyg mewn llyfrau plant. Mae ganddi ddiddordeb arbennig mewn moeseg amgylcheddol ac eco-ontolegau, fe adlewyrchir hyn hefyd yn ei gwaith cyfredol ar Watership Down.

Bydd pob un o’n siaradwyr yn cyflwyno papur 15-20 munud, ac yna bydd cwestiynau gan y gynulleidfa a thrafodaeth. I wneud y mwyaf o'r sesiwn, efallai yr hoffech ddarllen Watership Down.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff BookTalk