Ewch i’r prif gynnwys

Amddiffyn rhag ymosodiadau seiber

Dydd Iau, 8 Mehefin 2023
Calendar 17:15-18:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Defending against cyber attacks / Amddiffyn rhag ymosodiadau seiber

Mae cyfrifiadura a TG yn rhan annatod o’n bywydau bob dydd, ac mae sicrhau bod y systemau hyn yn parhau’n wydn ac yn ddiogel rhag ymosodiad, yn hollbwysig i’n cymdeithas fyd-eang.

Ymunwch â’r Athro Pete Burnap (BSc 2002, PhD 2010), Cyfarwyddwr y Ganolfan Ymchwil i Seiberddiogelwch a Dr Yulia Cherdantseva (PhD 2014), Cyfarwyddwr y Ganolfan Ragoriaeth Academaidd mewn Addysg Seiberddiogelwch, wrth iddynt rannu’r ymchwil gyffrous sy’n digwydd yn Prifysgol Caerdydd i ddatblygu systemau seiberddiogelwch a Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Clywch sut mae eu gwaith yn helpu i wneud y systemau rydym yn dibynnu arnynt yn fwy diogel ac yn gwella ein gallu i ragweld ac ymladd ymosodiadau. Byddwn hefyd yn clywed am sut maen nhw'n ysbrydoli ac yn paratoi'r genhedlaeth nesaf o warcheidwaid seiberddiogelwch.

Rhannwch y digwyddiad hwn