Ewch i’r prif gynnwys

Amgueddfeydd yn Japan ac o Japan: Cyfieithu a Chofio

Dydd Mercher, 19 Ebrill 2023
Calendar 13:30-14:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Black and white photographs, old documents and hat

Darlith gyhoeddus bersonol gyda dau fyfyriwr PhD o Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, fel rhan o thema ymchwil Hanes a Threftadaeth yn yr Ysgol.

Papur 1: 'Pam mae yosegaki hinomaru yn amgueddfeydd catrodol Prydain?' - Tamayo Hussey

Crynodeb

Mae'r tri degawd diwethaf wedi gweld newid mewn amgueddfeydd milwrol o arddangosfeydd â ffocws cenedlaethol ar ryfela i arddangosfeydd sy'n canolbwyntio ar effeithiau trais o wahanol safbwyntiau. I wneud hyn bu ymdrechion i adfywio atgofion unigol trwy arddangos gwrthrychau diwylliannol a chymdeithasol. Er bod llawer o erthyglau ymchwil cymharol am amgueddfeydd sy’n ymwneud â rhyfeloedd mewn gwahanol genhedloedd, nid oes llawer o astudiaethau ar amgueddfeydd bach a’u casgliadau, megis amgueddfeydd catrodol ym Mhrydain ac amgueddfeydd preifat yn Japan. Mae’r ymchwil hwn yn canolbwyntio ar eiddo penodol milwyr o Fyddin Ymerodrol Japan, neu yosegaki hinomaru (a gyfieithir yn aml fel ‘Baneri Pob Lwc’) sydd mewn casgliadau amgueddfeydd yn y ddwy wlad, a chyfieithu’r arysgrifau ar y baneri hyn. Roedd y testunau'n cynnwys propaganda a negeseuon personol a ysgrifennwyd gan aelodau o gymuned y milwr. Yn fy ngradd meistr, cyfieithais bum baner yn y casgliad mewn dwy amgueddfa filwrol yng Nghymru gan helpu i wella eu dehongliad a’u dealltwriaeth gyffredinol o’r baneri fel gwrthrychau treftadaeth. Yn fy ymchwil PhD byddaf yn ehangu’r gwaith hwn i amgueddfeydd eraill ar draws y DU ac yn archwilio materion ychwanegol yn ymwneud â’r faner. Bydd y cyflwyniad hwn yn gyntaf yn cyflwyno canfyddiadau cychwynnol o’m hadolygiad llenyddiaeth ac yna'r fethodoleg y bwriedir ei defnyddio, yn ogystal â'm profiad o gymryd rhan mewn dau weithdy allanol.

Bywgraffiad
Mae Tamayo Hussey yn fyfyriwr PhD rhan-amser blwyddyn 1af ym Mhrifysgol Caerdydd, lle derbyniodd hefyd ei MA mewn Astudiaethau Cyfieithu. Mae hi hefyd yn gweithio fel cyfieithydd Japaneeg a rheolwr sicrwydd ansawdd yn delio â chynnwys cyfryngau aml-iaith ar gyfer y farchnad Asiaidd.

Papur 2: 'Etifeddiaeth Hibakusha: dadansoddiad o'r 'rhaglen etifedd-olynwyr' yn Amgueddfa Goffa Heddwch Hiroshima' - Lauren Constance

Crynodeb

Am flynyddoedd ar ôl i’r bom atomig ddisgyn ar Hiroshima ym 1945, roedd clywed sgwrs gan hibakusha (person a ddaeth i gysylltiad â’r bom atomig) yn un o nodweddion sefydlog ymweliad ag Amgueddfa Goffa Heddwch Hiroshima, a agorodd ym 1955. Fodd bynnag, yn 2022, oedran cyfartalog hibakusha oedd 84. Mae hyn wedi arwain at ostyngiad anochel yn niferoedd yr hibakusha byw sy'n dal i allu rhoi darlithoedd, gan herio 'rheolwyr yr amgueddfa i gynnal ffurf ar ddehongli lle mae'r hibakusha yn adrodd eu profiadau trasig i ymwelwyr a myfyrwyr' (Yoshida et al. 2016: 36). Mae Amgueddfa Goffa Heddwch Hiroshima yn cynnig i'w hymwelwyr y profiad o wrando ar denshōsha (etifedd-olynwyr) na chafodd brofiad uniongyrchol o'r digwyddiad. Mae denshōsha yn cael eu hyfforddi am dair blynedd i 'etifeddu' profiad hibakusha fel y gallant barhau i gyfleu eu tystiolaeth yn yr amgueddfa. Fodd bynnag, gellid ystyried y syniad y gall rhywun roi tystiolaeth ar ran llygad-dyst uniongyrchol yn foesegol broblematig. Yn wir, holodd hibakusha Emiko Okada (yn Rosner, 2017), a wnaeth, cyn ei marwolaeth ym mis Ebrill 2021, ymddiried yn Yasukazu Narahara o Tokyo, yr ‘etifedd-olynydd’, i ailadrodd ei phrofiad: 'A all olynwyr drosglwyddo'r geiriau sy'n dod allan o'n heneidiau, rhywbeth mor boenus, ein profiadau a'n meddyliau a'n teimladau?' Yn seiliedig ar lenyddiaeth ysgolheigaidd, cyfweliadau gyda denshōsha sydd ar gael i’r cyhoedd, a gwaith maes a gynhaliwyd yn Japan rhwng Mehefin-Awst 2022, mae'r papur hwn yn codi cwestiynau pwysig am foeseg adrodd straeon. 

Bywgraffiad
Mae Lauren Constance yn fyfyriwr PhD trydedd flwyddyn yn Ysgol Ieithoedd Modern Prifysgol Caerdydd, lle cwblhaodd hefyd ei gradd israddedig mewn Japaneeg a Sbaeneg.

Trefn y Digwyddiad & recordio
Bydd  y digwyddiad yn cael ei gynnal yn bersonol a byddwn yn ei recordio er mwyn ei gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 12 Ebrill i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Gweld Amgueddfeydd yn Japan ac o Japan: Cyfieithu a Chofio ar Google Maps
Ystafell 2.18 yn yr Ysgol Ieithoedd Modern
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn