Ewch i’r prif gynnwys

Nogo Abang

Dydd Mawrth, 18 Ebrill 2023
Calendar 18:00-19:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Nogo Abang

Sefydlwyd Ensemble Gamelan Prifysgol Caerdydd, Nog Abang, yn 2015 gan Dr Jonathan Roberts a  Dr Amanda Villepastour ac enillodd llawer o barch a chariad fel cyfraniad cerddorol pwysig i gerddoriaeth yng Nghaerdydd. Un uchafbwynt oedd y daith i Ganolbarth Java gan ugain aelod o’r adran lle cafwyd astudiaethau a pherfformiadau mewn canolfannau hynod: y plasty brenhinol, mewn gardd te mynyddog a marchnad mewn canolfan ddinesig. Ar ôl seibiant post-Covid mae cydymaith i Jonathan, Peter Smith, wedi cymryd yr awennau gyda chefnogaeth myfyrwyr eiddgar a rhai a fu’n aelodau ers cyn Covid.

Gamelan Prifysgol Caerdydd

Comisiynwyd y Gamelan Slendros pres yng Ngwanwyn 2022 ac fe’i cwblhawyd yn Awst 2022. Bp Cokrik oedd yn gyfrifol am y fenter  hon  yn  ei weithdy yn ninas Solo ac yn yr efail yn Bp Sutarno yn mhentref Jatitekan, sydd tua’r dwyrain o  Solo yng Nghanolbarth Java. Y gofyniad oedd am gamelan llawn ond o lai o faint a ellid ei symud o gwmpas yn hawdd ond heb golli effeithiolrwydd ensemble llawn, o safbwynt grym y sain a’i ymddangosiad. Heno fydd y tro gyntaf i’r gamelan gael ei chlywed yn gyhoeddus.

Gweld Nogo Abang ar Google Maps
Octagon
Music Building
31 Heol Corbett
Cathays
Caerdydd
CF10 3EB

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

School of Music concert series