Ewch i’r prif gynnwys

Dysg a Chymdeithas Wyddelig Gynnar

Dydd Iau, 27 Ebrill 2023
Calendar 17:30-18:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

British Academy Lecture

Wedi'i chyflwyno gan yr academyddion mwyaf rhagorol yn y DU a thu hwnt, mae Rhaglen Ddarlithoedd flaenllaw'r Academi Brydeinig yn arddangos yr ysgolheictod gorau yn y dyniaethau a'r gwyddorau cymdeithasol. Mae'r ddarlith hon yn rhan o Ddarlithoedd Coffa Syr John Rhys. 


Yn y ddarlith hon, bydd yr Athro Thomas Charles-Edwards yn ymchwilio i pam y cynhyrchodd Iwerddon nifer eithriadol o ysgolheigion ac ystod o destunau ysgrifenedig rhwng y 6ed a'r 9fed ganrif, gan honni bod hwn yn bwnc hollbwysig i haneswyr, nid Iwerddon yn unig, ond hefyd Prydain Geltaidd (gan gynnwys Cymru) yn ogystal â Lloegr Eingl-Sacsonaidd a'r ymerodraeth Carolingaidd.  Bydd yr Athro Charles-Edwards yn dadlau mai natur y gymdeithas Wyddelig yn y cyfnod cyn-Llychlynnaidd oedd y rhesym dros doreth athrawon Gwyddelig mewn dysg Ladin.     

  • Am ddim, rhaid cadw lle ymlaen llaw
  • Cofrestru yn agor am 17:00, gyda'r ddarlith yn dechrau am 17:30
  • Mae'r digwyddiad hwn yn cynnwys derbyniad ar gyfer cyfranogwyr ar ôl y ddarlith am 18:30
  • Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal yn Saesneg.
  • Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb, a bydd cyfieithu ar y pryd ar gael
  • Bydd capsiynau byw yn Saesneg ar gael ar gyfer y ddarlith hon

Siaradwr: Yr Athro Thomas Charles-Edwards FBA, Athro Iesu Emeritws Celteg, Prifysgol Rhydychen 
Mae'r Athro Thomas Charles Edwards, FRHistS, FBA, HonMRIA, FLSW yn gyn Athro Celteg, Cymrawd Llyfrgellydd a Chymrawd Archifydd yng Ngholeg yr Iesu. Mae ei arbenigedd ym meysydd hanes ac iaith Cymru ac Iwerddon, yn ystod yr hyn a elwir yn 'Oes Dywyll Iwerddon' (yn ystod yr Ymerodraeth Rufeinig) a'r cyfnod canoloesol. Mae'n Gymrawd i’r Gymdeithas Hanesyddol Frenhinol, yn Gymrawd i’r Academi Brydeinig ac yn Gymrawd Sefydlol i Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Cafodd ei ethol yn aelod anrhydeddus o Academi Frenhinol Iwerddon yn 2007. 

Darlith Goffa Syr John Rhys 
Ym 1924 rhoddwyd elw cronfa apêl i'r Academi er mwyn sefydlu 'cofeb' i'r diweddar Syr John Rhys FBA. Penderfynodd yr Academi y byddai'r gofeb ar ffurf 'darlith, neu bapur, neu fonograff ar thema Gymreig neu Geltaidd arall'. Rhoddwyd y ddarlith am y tro cyntaf ym 1925. 


Ymddiheurwn nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg. Yn anffodus, nid yw hynny’n bosibl ar y platfform rydym yn ei ddefnyddio.

Cynhelir y digwyddiad hwn yn wyneb yn wyneb mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad hwn anfonwch ebost at events@thebritishacademy.ac.uk 

Gweld Dysg a Chymdeithas Wyddelig Gynnar ar Google Maps
Arddangosfa Adeilad Bute
Bute Building
Rhodfa'r Brenin Edward VII
Caerdydd
CF10 3NB

Rhannwch y digwyddiad hwn