Ewch i’r prif gynnwys

Cyfieithu amlfoddol yn y celfyddydau: (aml) moddau, ieithoedd a chodau mewn/fel cyfieithu?

Calendar Dydd Llun 22 Mai 2023, 01:00-Dydd Mawrth 23 Mai 2023, 01:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Hoffem dynnu eich sylw at ein digwyddiad sydd ar y gweill, Cyfieithu amlfoddol yn y celfyddydau: (aml) moddau, ieithoedd a chodau mewn/fel cyfieithu?, symposiwm ymchwil ar-lein deuddydd a fydd yn cael ei gynnal ar 22 a 23 Mai 2023, ar Zoom. Ein bwriad yw cyd-drafod a myfyrio ar arferion cyfieithu yn y celfyddydau, gan ganolbwyntio ar brosesau a chanlyniadau amlfoddol. Bydd ein symposiwm ar-lein yn cael ei gyfoethogi gan arddangosiadau ymarferol a chyflwyniadau ynghylch papurau, ac rydym yn gwahodd ysgolheigion yn ogystal ag artistiaid o unrhyw ddisgyblaeth (neu rai rhyngddisgyblaethol) i gymryd rhan.

Trefnir y digwyddiad gan yr ymchwilwyr Dr Joanna Chojnicka a Dr Angela Tarantini (Cymrodyr Ôl-ddoethurol Marie Curie yn yr Ysgol Ieithoedd Modern ym Mhrifysgol Caerdydd) ac Irene Fiordilino (ymarferydd-ymchwilydd ac ymgeisydd PhD mewn Ymarfer Creadigol yn Conservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban). Mae pwyllgor llywio'r digwyddiad hwn hefyd yn cynnwys yr Athro Helen Julia Minors (Pennaeth Ysgol y Celfyddydau ym Mhrifysgol Efrog St John), Dr Cristina Marinetti (Uwch-ddarlithydd mewn Astudiaethau Cyfieithu ym Mhrifysgol Caerdydd) a Dr Naomi Lefebvre Sell (Darllenydd mewn Ymarfer Coreograffig ac Arweinydd Rhaglen yn Conservatoire Cerdd a Dawns Trinity Laban).

Yn ystod y symposiwm byddwn yn ymdrechu i ddatgelu'r llu o arferion cyfieithu nad ydynt yn cael llawer o sylw ond sydd eisoes yn rhan annatod o ymchwil artistig ac o gynhyrchu gwaith celf a thestunau amlfoddol. Yn benodol, hoffem fwrw goleuni ar y syniad o waith amlfoddol fel mater ymchwil artistig yn unig, gan archwilio'r prosesau cyfieithu ymgorfforedig, cydweithredol, cinetig, materol a rhyngsemiotig y mae artistiaid bob amser wedi’u defnyddio yn eu gwaith. Byddwn yn annog pobl i ymgysylltu â'r cyfryngau cymdeithasol yn ystod y digwyddiad.

Edrychodd Pérez González (2014) ar ddulliau amlfoddol mewn cyfieithu ar adeg pan oedd y syniad Jakobsonaidd o gyfieithu rhyngsemiotig yn dal i fod yn gyffredin, a phan oedd cyfieithu rhyngsemiotig yn cael ei ystyried yn ‘ddehongliad o arwyddion geiriol drwy arwyddion systemau arwyddion di-eiriau’ (Jakobson, 1971, t. 261). Yn fwy diweddar, mae Kobus Marais (2019) wedi cynnig y dylai ysgolheigion cyfieithu fabwysiadu cysyniad Peirceaidd o gyfieithu rhyngsemiotig, lle gall y ddwy system arwyddion fod yn ddi-eiriau. Mae hyn yn codi’r cwestiwn ‘beth yw'r stwff sy’n creu cyfieithiad?’ Beth yw materoldeb cyfieithu (yn dilyn Littau, 2016)? Beth yw'r ieithoedd a'r codau sy'n cael eu defnyddio wrth gyfieithu? A all damcaniaethau ynghylch cyfieithu amlygu arferion artistig? A all arferion artistig a/neu ddarpariaethau hygyrchedd gynnig locws cyfieithu sy'n sail i’r cysyniad o gyfieithu fel ‘proses o greu ystyr’, fel y nododd Marais?

Erbyn diwedd y ddau ddiwrnod, gobeithiwn y byddwn yn gallu cydweithio i amlinellu diffiniad estynedig o gyfieithu i gwmpasu ail-ddehongli ac ail-fateroli ystyron mewn amrywiaeth o foddau, cyfryngau a lleoliadau.

Cwestiynau, ysgogiadau, a themâu

  • Dyma rai o'r cwestiynau, ysgogiadau, a themâu i fyfyrio arnynt yr hoffem eu cynnwys mewn trafodaethau
  • Beth yw’r stwff sy’n creu cyfieithiad?
  • Materoldeb cyfieithu
  • Testun ffynhonnell' cyfieithiad, a'r artiffact/perfformiad fel canlyniad materol y broses gyfieithu
  • Cyfieithu fel arfer wedi'i leoli: un sy'n cwmpasu prosesau sydd wedi’u rhwymo i’r corff, i’r amgylchedd, ac i’r cyd-destun (hanesyddol a chymdeithasol-ddiwylliannol), hefyd ar gyfer hygyrchedd ac i wella cynwysoldeb
  • Cyfieithu fel gweithred berfformiadol
  • Cyfieithu fel ymateb creadigol i ymchwiliad

Canllawiau cyflwyno

Cyflwyniadau haniaethol

Mae gennym ddiddordeb mewn cyfraniadau a allai fynd i'r afael â'r dulliau, llinellau ymholi, gwaith myfyriol, syniadau ymarferol, a modelau cydweithio posibl y mae artistiaid-fel-cyfieithwyr a chyfieithwyr-fel-artistiaid wedi bod yn ymgysylltu â nhw yn eu hymarfer (a'u) hymchwil.

Rydym yn derbyn crynodebau 300 gair ar gyfer cyflwyniadau papurau sy'n para 20 munud, gyda chwestiynau mewn trafodaeth banel wedi’i chadeirio i ddilyn

Mae croeso i artistiaid anfon cipolwg o'u hymarfer a/neu waith celf; rydym yn derbyn unrhyw fformat clyweledol y gellir ei rannu drwy Zoom: e.e. delweddau, fideos byr, neu samplau sain hyd at 5 munud o hyd. Bydd yr holl artistiaid a wahoddir yn ymuno â thrafodaeth banel, felly - ynghyd â'ch cais - gofynnwn i chi anfon datganiad byr atom (hyd at 200 gair) yn amlinellu'r berthynas rhwng eich ymarfer artistig ac un (neu fwy) o'n cwestiynau, ysgogiadau a themâu trafod a restrir uchod. Rydym yn annog artistiaid, ymarferwyr-ymchwilwyr, a chyfieithwyr-ymchwilwyr i fframio eu gwaith fel Ymchwil ar ffurf/yn seiliedig ar/wedi’i harwain gan Ymarfer (Barrett & Bolt, 2007; Kershaw et al., 2011; Little, 2011; Nelson, 2013; Tarantini, 2021).

Datganiadau o ddiddordeb ar gyfer trafodaeth bord gron

Rydym hefyd yn derbyn datganiadau o ddiddordeb i ymuno â thrafodaeth bord gron 45 munud mewn ymateb i'r prif gwestiwn sy'n sail i'r symposiwm hwn: gwaith amlfodd fel cyfieithu? Os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y cyfle hwn, anfonwch ymateb beirniadol 150 gair atom.

Ein nod yw gwneud gwaith dilynol posibl mewn perthynas â chanlyniadau'r symposiwm gyda rhifyn arbennig o’r cyfnodolyn.

Dyddiad cau


Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cyflwynwch eich cynnig erbyn 30 Ebrill 2023, gan anfon eich cynnig at y cyfeiriadau ebost canlynol: TarantiniA@caerdydd.ac.uk, ChojnickaJ@caerdydd.ac.uk, a irene.fiordilino@gmail.com. Yn llinell pwnc eich ebost, nodwch a yw eich cyflwyniad yn un o’r canlynol:

A.    ar gyfer cyflwyniad papur;
B.    cipolwg ar eich gwaith fel artist-ymchwilydd; 
C.    datganiad o ddiddordeb i gymryd rhan yn y drafodaeth bord gron.

Dylech gynnwys naill ai A, B, neu C yn eich llinell pwnc

Os ydych yn dymuno bod yn bresennol a/neu gyflwyno a bod angen dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (BSL) arnoch, nodwch hynny yn eich ebost a/neu yn ffurflen Eventbrite (ar ei ffordd).

Gwaith a ddyfynnir
  • Barrett, E., & Bolt, B. (Eds.). (2007). Practice as Research Approaches to Creative Arts Enquiry. I. B. Tauris.
  • González, L. P. (2014). Multimodality in Translation and Interpreting Studies: Theoretical and Methodological Perspectives. In S. Bermann & C. Porter (Eds.), A Companion to Translation Studies (pp. 119-131). John Wiley & Sons, Ltd. https://doi.org/10.1002/9781118613504.ch9
  • Jakobson, R. (1971). Selected writings II, Word and language. Mouton.
  • Kershaw, B., Miller, L., Whalley, J. B., Lee, R., & Pollard, N. (2011). Practice as Research : Transdiciplinary Innovation in Action. In B. Kershaw & H. Nicholson (Eds.), Research Methods in Theatre and Performance (pp. 63-85). Edinburgh University Press.
  • Littau, K. (2016). Translation and the materialities of communication. Translation Studies, 9(1), 82-96. https://doi.org/10.1080/14781700.2015.1063449
  • Little, S. (2011). Practice and Performance as Research in the Arts. In D. Bendrups & G. Downes (Eds.), Dunedin Soundings: Place and Performance (pp. 19-28). Otago University Press.
  • Marais, K. (2019). A (bio)semiotic theory of translation : the emergence of social-cultural reality. Routledge.
  • Nelson, R. (2013). Practice as Research in the Arts: Principles, Protocols, Pedagogies, Resistances. Palgrave Macmillan.
  • Tarantini, A. T. (2021). Theatre Translation: A Practice as Research Model. Palgrave Macmillan. https://doi.org/10.1007/978-3-030-70202-1

Rhannwch y digwyddiad hwn