Ewch i’r prif gynnwys

Busnes y Gyfraith: Gweithrediadau, Buddsoddiadau a Moeseg

Dydd Iau, 30 Mawrth 2023
Calendar 08:30-09:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Audience

Beth sy'n dod i'ch meddwl pan fyddwch chi'n meddwl am gwmni cyfreithiol? Swyddfeydd moethus yn y ddinas, blychau lletygarwch a thrafodion corfforaethol? Neu ydych chi'n dychmygu’r cwmnïoedd llai ar hyd ein strydoedd mawr sy'n rhoi cyngor i'r gymuned? Mae'r gwahaniaeth rhwng y ddau yn amlwg.

Yn y sesiwn hwn, bydd Chris Nott, Uwch Bartner yn Capital Law yn trafod sut mae tirwedd cwmnïau cyfreithiol wedi newid ers iddo ddechrau ymarfer. Bryd hynny, daeth swm sylweddol o arian o gymorth cyfreithiol, a chyfraith defnyddwyr oedd prif ffynhonnell busnes. Nid yw’r model hwnnw’n bodoli mwyach. Mae ‘llymder’ wedi sbarduno toriadau mawr i gymorth cyfreithiol yn y DU, fel canlyniad mae llawer o gwmnïau stryd fawr wedi cau eu drysau ers amser maith. Mae’r DU bellach yn safle 79ain yn y byd am hygyrchedd a fforddiadwyedd cyfiawnder sifil.

Er gwaethaf hyn, yn ystod y ddau ddegawd diwethaf cynyddodd y sector cyfreithiol ei refeniw cyfunol 260%, a chynyddodd GDP y DU 36% yn unig. Sector cyfreithiol y DU yw’r ail fwyaf yn y byd, ac mae’n cyfrif am werth dros £40 biliwn o refeniw’r DU. Adroddodd y 10 cwmni cyfreithiol gorau yn y DU yr elw uchaf erioed o 39.9% gyda rhai partneriaid ecwiti yn dal i ennill hyd at £5miliwn bob blwyddyn, felly mae’n amlwg bod busnes mawr i’w gael o hyd, ac eto dim ond 6 chwmni cyfreithiol sydd erioed wedi ymddangos ar farchnadoedd stoc y DU. Pam hynny?

Bydd Chris yn rhannu ei safbwyntiau ar y materion hyn a mwy, gan rannu enghreifftiau o arweinwyr sy’n ceisio gwella cynaliadwyedd proffesiynol a moesegol y sector, yn wyneb diwylliannau sy'n gosod pwysigrwydd ar elw. Bydd yr Athro Leighton Andrews yn cadeirio’r drafodaeth llwyfan agored hon am orffennol y sector cyfreithiol ac yn bwysicach fyth ei ddyfodol.

Gweld Busnes y Gyfraith: Gweithrediadau, Buddsoddiadau a Moeseg ar Google Maps
Executive Education Suite
Cardiff Business School Postgraduate Teaching Centre
Colum Road
Cathays
Caerdydd
CF10 3EU

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Executive Education