Ewch i’r prif gynnwys

Paned i Ysbrydoli - Mawrth

Dydd Iau, 2 Mawrth 2023
Calendar 14:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Mae Caerdydd Creadigol eisiau parhau i ddod â phobl ynghyd i gwrdd â chydweithio yn 2023. O fis Chwefror ymlaen, rydym yn lansio cyfle rhwydweithio misol newydd ar gyfer artistiaid, busnesau bach a gweithwyr llawrydd creadigol, o’r enw ‘Paned i Ysbydoli’. Bydd y digwyddiadau rhwydweithio hyn yn dod â chymuned greadigol Caerdydd at ei gilydd ar gyfer y tair 'C' hollbwysig – cysylltiad, creadigrwydd a chaffein.

Bydd Paned i Ysbrydoli yn cael ei gynnal ar ddydd Iau cyntaf pob mis, a’r un nesaf ar 2 Mawrth yn Heart Space, Ysgol Gelf a Dylunio Met Caerdydd.

I nodi Diwrnod y Llyfr, bydd y sesiwn hon yn ymwneud ag ysgrifennu - sut y gallwch chi wella'ch ysgrifennu eich hun a'i ddefnyddio i gyfoethogi'ch gwaith neu hyrwyddo'ch busnes.

Rydym yn falch iawn o gael Briony Goffin yn ymuno ar gyfer y sesiwn hon. Mae Briony yn awdur, yn diwtor ac yn fentor. Mae hi'n dysgu ysgrifennu creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn arbenigo mewn hwyluso profiadau ysgrifennu creadigol mewn lleoliadau cymunedol a gofal iechyd. Mae Briony wedi gweithio'n helaeth yn y GIG, fel arweinydd prosiect, gan weithio gyda chleifion, staff a pherthnasau. Mae hi hefyd wedi dod â’i harbenigedd ysgrifennu i sefydliadau mor amrywiol ag Amgueddfa Cymru, Gwasanaeth Carchardai HM, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Sky Arts a Gŵyl y Gelli. Mae Briony wedi cyhoeddi’n eang ar y testun ysgrifennu a’r broses greadigol. Mae hi wedi derbyn gwobr Tiwtor Ysbrydoledig y Flwyddyn gan NIACE ac wedi rhannu ei gwaith ar Ysgrifennu fel Teyrnged gyda chynulleidfa fyd-eang ar gyfer TEDxCaerdydd.

Heart Space, Cardiff Met School of Art and Design
200 Western Ave
Cardiff
Cardiff
CF5 2YB

Rhannwch y digwyddiad hwn