Ewch i’r prif gynnwys

This Is Not Who We Are: Sophie Buchaillard mewn sgwrs gyda Eric Ngalle Charles

Dydd Mercher, 26 Ebrill 2023
Calendar 18:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The author Sophie Buchaillard

Mae'n bleser gan BookTalk Caerdydd eich gwahodd i'n digwyddiad awduron, wyneb yn wyneb, nesaf, This Is Not Who We Are: Sophie Buchaillard mewn sgwrs ag Eric Ngalle Charles. Rydym yn cyfarfod ym Mhafiliwn Grangetown, Gerddi Grange, Caerdydd CF11 7LJ ar 26 Ebrill, 2023, 6pm. Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Ysbrydoli Cymunedau, Llenyddiaeth Cymru. Mae'r drysau'n agor am 6, ar gyfer lluniaeth cyn i ni ddechrau. Mae croeso i bawb yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn.

Ym 1994, mae menyw ifanc o Rwanda a'i brodyr yn cael eu tynnu i mewn i sefyllfa o anhrefn dreisgar sy’n digwydd yn sgîl llofruddiaeth yr arlywydd. Yn y cyfamser, yn y presennol, mae Iris - newyddiadurwr â theulu ifanc - yn chwilio'n obsesiynol am unrhyw olion o Victoria, y ffrind-llythyru a ddiflannodd yn ystod yr hil-laddiad yn Rwanda ddeng mlynedd ar hugain ynghynt. Wrth i'w bywydau blethu, mae gan y ddwy fenyw ysbrydion a chyfrinachau i'w wynebu, a rhaid iddynt benderfynu sut i gymryd cyfrifoldeb am y gorffennol.

Mae This is Not Who We Are yn cyfuno elfennau o ffuglen a hunangofiant, gan archwilio safbwyntiau tra gwahanol ar drasiedi Rwanda a'r profiad o fudo. Mae'r llyfr yn llawn tosturi ac yn glir ei weledigaeth, ac mae’n gofyn cwestiynau anghyfforddus am y trais yn Ewrop; ar yr un pryd, nid yw fyth yn colli golwg ar gymhlethdodau dynol ei chymeriadau.

Ganed Sophie Buchaillard ym Mharis, a symudodd i Gymru yn 2001 ac mae bellach yn byw ym Mhenarth. Mae'n ysgrifennu llenyddiaeth teithio sydd wedi’i hysbrydoli gan ei theulu - teulu a chanddynt hoffter o deithio. Mae hi hefyd yn ysgrifennu ffuglen a straeon byrion sy'n myfyrio ar bryderon ein hoes. Ar hyn o bryd mae'n gweithio ar ei PhD ym Mhrifysgol Caerdydd lle mae'n tiwtora Ysgrifennu Creadigol. Mae ei straeon byrion a'i thraethodau wedi ymddangos yn Wales Arts Review, Byline Times, Writers & Artists, ac mae hefyd yn cyfrannu at gasgliad ysgrifennu am deithio, An Open Door: New Travel Writing for a Precarious Century (Parthian, 2022). Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, This is Not Who We Are, gan Seren Books ac roedd yn rhan o ddeg nofel orau'r Wales Arts Review yn 2022. 

Bydd yr awdur yn sgwrsio gydag Eric Ngalle Charles, bardd, dramodydd ac ymgyrchydd dros hawliau dynol. Mae ei gofiant, I, Eric Ngalle: One Man's Journey Crossing Continents from Africa to Europe (2019), yn adrodd y daith o'i fan geni yng Nghamerŵn i Rwsia ac yna Ewrop, lle bu'n ceisio lloches cyn ymgartrefu yng Nghaerdydd. Mae wedi golygu nifer o gyfrolau o farddoniaeth a chyhoeddwyd ei gasgliad diweddaraf, Homeland (2022), gan Seren. Mae'n aelod o fyrddau Llenyddiaeth Cymru a Grŵp Ymgynghori Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac mae’n gweithio ar PhD yng Ngholeg y Brenin yn Llundain.

Yn dilyn hyn, bydd cyfle i gael trafodaeth ac i’r gynulleidfa ofyn cwestiynau. I wneud y mwyaf o'r sesiwn, efallai yr hoffech ddarllen This Is Not Who We Are. Ymhlith y testunau a argymhellir ymhellach mae I, Eric Ngalle a Homeland gan Eric Ngalle Charles.

Mhafiliwn Grangetown
Gerddi Grange
-
Caerdydd
CF11 7LJ

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Cardiff BookTalk