Ewch i’r prif gynnwys

Bod yn Wyddonydd!

Dydd Llun, 20 Chwefror 2023
Calendar 11:00-15:59

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Poster

Dewch i ymuno â'n diwrnod Bod yn Wyddonydd! yn sbarc|spark, Prifysgol Caerdydd. Rydym wedi cynllunio diwrnod llawn hwyl o weithgareddau ymarferol ac arbrofion diddorol. Gall bod yn wyddonydd olygu cymaint o bethau gwahanol, ac rydym am roi blas i chi o'r hyn y mae gwahanol wyddonwyr yn ei wneud.

Rydym yn cynnal amrywiaeth o stondinau a gweithdai drwy gydol y dydd, a gallwch ddod draw i weld sut beth yw bod yn Wyddonydd. Mae gennym foduron magnetig, peirianneg drydanol, posau anhygoel a llawer mwy. Mae rhywbeth yma i bawb, p'un a ydych yn 8 oed neu’n 80 oed! Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gwyddonwyr gwych o bob rhan o’r Brifysgol a thu hwnt, a byddant ar gael i ateb cwestiynau a chael sgyrsiau drwy gydol y dydd.

Mae yna gaffi ar y safle, felly fe allech chi gael cinio yma hefyd. Gallwch barcio am ffi o amgylch yr adeilad, neu gallwch barcio wrth yr amgueddfa a mwynhau diwrnod allan!

Rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â darpar wyddonwyr a fydd yn dod i roi cynnig ar ein profion – fe welwn ni chi yno!

sparc|spark
Maindy Road
Cardiff
Caerdydd
CF24 4HQ

Rhannwch y digwyddiad hwn