Diwrnod Anturiaethau Mathemateg
Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben
Cysylltu
Arbedwch i'ch calendr

Mae Ysgol Mathemateg Caerdydd yn trefnu Diwrnod Anturiaethau Mathemateg ar 18 Chwefror 2023. Fe’i cynhelir yn adeilad Abacws, yn rhan o Ŵyl Wyddoniaeth Caerdydd.
Mae'r Diwrnod Anturiaethau yn cynnwys gweithgareddau ymarferol a gweithdai a chyflwyniadau difyr i blant, teuluoedd a'r cyhoedd. Nod y digwyddiad yw hyrwyddo dealltwriaeth a gwerthfawrogiad o rôl Mathemateg mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o fathemategwyr a gwyddonwyr.
Mae capasiti rhai digwyddiadau yn gyfyngedig a bydd y rhai sy'n mynychu yn cael eu caniatáu ar sail y cyntaf i'r felin.
Abacws
Ffordd Senghennydd
Cathays
Caerdydd
CF24 4AG