Ewch i’r prif gynnwys

Gweithdy cyfieithu barddoniaeth gyda'r awdur Anant Kumar

Dydd Mercher, 15 Mawrth 2023
Calendar 13:00-16:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Berlin Bombay

Yn rhan o’r gweithdy wyneb yn wyneb hwn bydd yr awdur Anant Kumar yn trafod detholiad o’i farddoniaeth Almaeneg, a bydd cyfle hefyd i gyfranogwyr gyfieithu darnau a rhannu eu cyfraniadau i'w trafod.

Bydd cyflwyniad gan yr awdur ar ddechrau’r digwyddiad, ynghylch ei farddoniaeth, gan gynnwys trafodaeth am yr heriau a'r anawsterau a wynebwyd, yn ogystal â chwestiynau ynghylch bwriadau a chanfyddiadau.

Daw'r cerddi o wahanol gefndiroedd; maent yn myfyrio ar arferion dyddiol yr Almaen, gan gynnwys arsylwadau cywir o sefyllfaoedd bywyd bob dydd a meddyliau athronyddol.

Yn ystod ail hanner y gweithdy, bydd cyfle i’r cyfranogwyr siarad â'r awdur, a bydd cyfieithiadau yn cael eu rhannu i'w trafod a'u dadansoddi, gan ystyried i ba raddau mae cyfieithiadau o'r fath yn ddehongliadau bob amser, hefyd. Mae croeso i gyfranogwyr gyfieithu'r cerddi i'r Saesneg neu iaith arall.

Y digwyddiad hwn yw'r cyntaf o ddau gydag Anant Kumar. Bydd yr ail ddigwyddiad a'r olaf gyda'r awdur yn cael ei gynnal ddydd Iau 23 Mawrth.

Bywgraffiad
Awdur Almeinig, cyfieithydd a beirniad llenyddol o dras Indiaidd yw Anant Kumar (ganwyd 28 Medi, 1969 yn Katihar / Bihar). Treuliodd ei blentyndod ym Motihari, lle'r oedd ei dad Rajendra Prasad yn Athro yng Ngholeg M. S., Prifysgol Babasaheb Bhimrao Ambedkar Bihar.  Mae'n byw yn Kassel, yr Almaen.

Yn fab i athro Indiaidd o Bihar, aeth Kumar i'r coleg o 1991 i 1998 yn y GHK (Gesamthochschule/Prifysgol Kassel), lle derbyniodd radd meistr mewn llenyddiaeth Almaeneg, gan ysgrifennu ei draethawd ymchwil ar nofel epig Alfred Döblin, Manas.

Yn ei weithiau llenyddol, mae Kumar yn cysylltu profiadau tramorwr yng nghymdeithas yr Almaen â diwylliant India. Nodweddir ei waith cyntaf, Fremde Frau, Fremder Mann (Gwraig Dramor, Dyn Tramor), gan ei fewnwelediadau cryno a chraffter mynegiannol. Mae agweddau dychan arsylwadol a sylwadau tra eironig yn elfennau cyson drwy holl waith Kumar. Yn ei waith Zeru—A Seven Day Story mae Kumar yn cyfeirio at ffurf lenyddol yr epos ac yn darlunio'n wych yr amrywiaeth liwgar o fywyd beunyddiol bachgen Affricanaidd yng nghanol mythau gwyllt a hynafol y cyfandir tywyll.

Mae Anant Kumar yn aelod o Gymdeithas Awduron yr Almaen a Chymdeithas Lenyddol Hesse.

Mae rhestr o waith Anant Kumar ar gael.

Trefn y Digwyddiad
Bydd y digwyddiad yn cymryd yn bersonol ac ni fydd yn cael ei gofnodi i'w gyhoeddi ar ôl y digwyddiad.

Cyfieithu ar y pryd
Bydd y digwyddiad hwn yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg. Mae croeso i chi ofyn cwestiynau yn Gymraeg yn ystod y sesiwn holi ac ateb. Os ydych yn bwriadu gwneud hyn, cysylltwch â mlang-events@caerdydd.ac.uk erbyn dydd Mercher 1 Mawrth i wneud ymofyniad cyfieithu ar y pryd. Nodwch fod 10% neu mwy o’r rhai sy’n bwriadu dod yn angen i ofyn am y ddarpariaeth hon er mwyn iddo gael ei ffynonellau i fod yn bresennol a bydd yn amodol ar argaeledd adnoddau.

Cofrestru
Cofrestrwch i fynychu'r digwyddiad hwn drwy glicio ar y botwm 'Cofrestrwch' ar ochr chwith y dudalen hon. Mae'n ddrwg gennym nad yw'r dudalen gofrestru gyfan ar gael yn Gymraeg.

Hysbysiad Diogelu Data
Pan fyddwch yn cofrestru, cedwir eich data yn unol â’n Hysbysiad Diogelu Data. Byddwn yn prosesu’r data personol a ddarparwyd gennych yn unol â rheoliadau diogelu data.

Gweld Gweithdy cyfieithu barddoniaeth gyda'r awdur Anant Kumar ar Google Maps
Ystafell 2.22 yn yr Ysgol Ieithoedd Modern
66a Park Place
Cathays
Caerdydd
CF10 3AS

Rhannwch y digwyddiad hwn