Ewch i’r prif gynnwys

Heriau’n ymwneud â glaw tymhorol

Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023
Calendar 18:30-20:30

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

The challenges of seasonal rainfall

Darlith gyhoeddus gyda Dr Caroline Wainwright (Prifysgol Caerdydd).

Heriau’n ymwneud â glaw tymhorol: Dod i ddeall yr heriau’n ymwneud â dibyniaeth ar law mewn hinsawdd lle nad yw'n bwrw glaw trwy gydol y flwyddyn.

Crynodeb

Ledled Affrica a rhannau o'r trofannau, glaw yn bennaf sy’n cyflenwi dŵr ar gyfer amaethyddiaeth a defnydd domestig. Fodd bynnag, mae llawer o'r trofannau yn profi cylch tymhorol cryf o law, gyda thymhorau gwlyb a sych amlwg. Mae dibyniaeth uchel y gymdeithas ar ddŵr glaw yn golygu bod y tymhorau hyn o bwysigrwydd cymdeithasol allweddol i boblogaethau ar draws y trofannau byd-eang, ac mae hyn yn effeithio ar sectorau gan gynnwys amaethyddiaeth, iechyd ac ynni. Mae gostyngiadau diweddar mewn glaw tymhorol ar draws Dwyrain Affrica yn gysylltiedig â gostyngiad o ran diogelwch bwyd a heriau eraill. Eto i gyd, mae rhagamcanion ar gyfer y dyfodol yn awgrymu cynnydd mewn glaw dros Ddwyrain Affrica. Gelwir yr anghysondeb hwn rhwng tueddiadau diweddar a rhagamcanion ar gyfer y dyfodol yn Baradocs Newid Hinsawdd Dwyrain Affrica, ac mae'n arwain at gwestiynau ynghylch dibynadwyedd rhagamcanion ar gyfer dyfodol. Darganfuwyd bod gwell cywirdeb o ran rhagolygon ar draws ystod o amserlenni o gymorth gyda chynllunio amaethyddol ac ynni.

Cynaladwyedd - beth nesaf?

Sut fath o le rydym ni eisiau i’r byd fod yn 2030, a sut mae cyflawni hyn? Yn 2015, cytunodd Aelod-wladwriaethau’r Cenhedloedd Unedig ar y Nodau Datblygu Cynaliadwy, sef glasbrint ar gyfer mynd i’r afael â llawer o’r heriau sy’n effeithio ar gymunedau ledled y byd. Mae angen ymgysylltiad amrywiol i gyflawni'r nodau hyn, gan gynnwys gan y rhai sy'n ymwneud â Gwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd. Yn y gyfres hon, mae arbenigwyr o amrywiaeth o ddisgyblaethau yn trin ac archwilio’r cysyniad o ‘ddatblygu cynaliadwy’ ac yn trin a thrafod ei oblygiadau ar y defnydd o adnoddau naturiol amrywiol.

Mae ein Cyfres o Ddarlithoedd Cyhoeddus yn ddigwyddiadau rhad ac am ddim sy’n denu cynulleidfa amrywiol gan gynnwys y cyhoedd, disgyblion ysgolion uwchradd a gweithwyr proffesiynol. Nod y gyfres yw agor meysydd o ddiddordeb yng Ngwyddorau’r Ddaear a’r Amgylchedd a chyflwyno ymchwil newydd yn y maes hwn i'r cyhoedd.

Parcio

Mae ein rheolau parcio ar y campws wedi newid. Bydd parcio ym Maes Parcio Bute ond ar gael am ddim i fynychwyr sy'n cyflwyno rhif cofrestru eu cerbyd. Bydd taflen mewngofnodi ar gael yn ystod y darlithoedd. Cofiwch gofnodi eich manylion ym mhob digwyddiad.

Ceir mynediad i faes parcio'r Prif Adeilad o Blas y Parc. Mae lleoedd parcio yn gyfyngedig iawn ac mae 5 man parcio hygyrch dynodedig. Gall deiliaid Bathodynnau Glas barcio am ddim. Gall ymwelwyr gadw lle parcio ymlaen llaw drwy gysylltu â carparking@caerdydd.ac.uk.

Mae mannau parcio cyhoeddus ar gael ar y stryd ar hyd Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa. Codir tâl cyn 19:00.

Gweld Heriau’n ymwneud â glaw tymhorol ar Google Maps
Darlithfa Wallace (Ystafell 0.13)
Main Building
Plas y Parc
Caerdydd
CF10 3AT

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Sustainability - what next?