Ewch i’r prif gynnwys

Tarddiad y Sandman

Dydd Mercher, 25 Ionawr 2023
Calendar 19:00-20:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

Illustration of the Sandman cradling a sleeping child

Bydd cyflwyniad Archwilio'r Gorffennol mis Ionawr hefyd yn Ddarlith Goffa Eileen Younghusband Addysg Barhaus a Phroffesiynol.

Rydym yn falch iawn o groesawu Dr Juliette Wood (Prifysgol Caerdydd) i drafod Tarddiad y Sandman.

Mae'r Sandman wedi dod i'r amlwg yn ddiweddar fel cymeriad ffantasi modern poblogaidd. Gall y ffigwr iasol hwn sy'n dod â breuddwydion i blant da hefyd fod yn fwgan bygythiol. Mae wedi dod yn drosiad arswydus, yn rhamantus yn ogystal â ffigwr meithrinfa. Mae'r cyflwyniad hwn yn trin a thrafod ffynonellau posibl ar gyfer y bod atgofus a hynod ddiddorol hwn.

Mae Darlith Goffa Eileen Younghusband yn deyrnged flynyddol i Eileen Younghusband (1921-2016), a oedd yn swyddog hidlo yn Llu Awyr Cynorthwyol y Menywod yn ystod yr Ail Ryfel Byd, yn gweithio i asesu adroddiadau radar ac ymuno â'r tîm oedd yn gyfrifol am ddod o hyd i rocedi V2 Hitler. Yn hwyrach yn ei bywyd, cwblhaodd radd gyda'r Brifysgol Agored (yn 87 oed), ac ychydig ar ôl hynny cyhoeddodd ei llyfr cyntaf, Not an Ordinary Life. Cyhoeddodd lyfrau eraill ar ôl hwnnw, gan gynnwys y llyfr plant Eileen's War. Roedd Eileen yn gefnogwr brwd i’r Ganolfan Dysgu Gydol Oes (Addysg Barhaus a Phroffesiynol erbyn hyn), ac yn 2013 cafodd Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei gwaith ymgyrchu yn erbyn toriadau i addysg oedolion yng Nghaerdydd.

Rhannwch y digwyddiad hwn


Digwyddiadau yn y gyfres hon

Exploring the Past lecture series