Ewch i’r prif gynnwys

Darganfod cyffuriau - y daith o'r labordy i erchwyn y gwely

Dydd Iau, 2 Mawrth 2023
Calendar 18:45-19:45

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

SiH Public Lecture series branding

Dr Amit Aggarwal, Cyfarwyddwr Meddygol, Cymdeithas Diwydiant Fferyllol Prydain (ABPI)

Yn ystod y ddarlith hon bydd Dr Amit Aggarwal yn mynd ag aelodau'r gynulleidfa ar daith wib sy'n esbonio sut mae meddyginiaethau arloesol heddiw ar gael i gleifion.

Mae datblygu un feddyginiaeth fel arfer yn cymryd dros ddeng mlynedd ac yn costio mwy na £1bn, gan ddechrau gyda 10,000 o ymgeiswyr cemegol posibl cyn blynyddoedd o brofi a threialon yn eu lleihau i gyrraedd un feddyginiaeth effeithiol, sy'n ddiogel ac yn addas i'w bwyta gan bobl. Mae hon yn daith o’r sgrin gyfrifiadurol a’r labordy, trwy dri cham o dreialon clinigol, trwy gyrff trwyddedu ac ad-dalu, i ddarparu triniaethau newydd a datblygiadau arloesol mewn gofal cleifion sy’n newid bywydau ledled Cymru.

Ymunwch â ni i ddeall taith meddyginiaethau modern, o'r “fainc i'r gwely”.

Gweld Darganfod cyffuriau - y daith o'r labordy i erchwyn y gwely ar Google Maps
Sir Stanley Thomas OBE Lecture Theatre
Centre for Student Life
Plas y Parc
Cathays
Caerdydd
CF10 3BB

Rhannwch y digwyddiad hwn