Ewch i’r prif gynnwys

Darlithoedd Canolfan Wolfson: Ymyriadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i wella canlyniadau iechyd meddwl a lles

Dydd Mercher, 8 Chwefror 2023
Calendar 14:00-15:00

Mae'r digwyddiad hwn wedi dod i ben

Cysylltu

Arbedwch i'ch calendr

A graphic showing Dr Rhiannon Evans under the Wolfson Centre Lectures banner

Ymyriadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal i wella canlyniadau iechyd meddwl a lles (CHIMES): Adolygiad systematig

Mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal mewn mwy o berygl o gael canlyniadau iechyd meddwl a lles niweidiol o'i gymharu â'r boblogaeth yn gyffredinol.

Er gwaethaf ystod o argymhellion ac ymyriadau polisi, nid yw'n glir pa ddulliau sy'n effeithiol yn y DU, na sut mae ffactorau cyd-destun yn arwain at hwyluswyr ac atalyddion gweithredu a derbynadwyedd.

Roedd adolygiad CHIMES yn adolygiad systematig dull cymysg cymhleth a oedd yn anelu at gyfosod y sylfaen dystiolaeth ryngwladol ar gyfer ymyriadau sy'n mynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles plant a phobl ifanc sydd a profiad o ofal (oedran ≤25) ac i asesu pa mor bosibl yw cludo'r sylfaen dystiolaeth hon i gyd-destun y DU.

Rhannwch y digwyddiad hwn